|  | Amcanion Llesiant | Ein bwriadau erbyn 2027... | 
|---|
| 1 | Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol | 
Bydd gan bob plentyn ac unigolyn ifanc fynediad at addysg o ansawdd da ac ni fydd unrhyw ysgolion mewn mesurau arbennigByddwn wedi lleihau cyfran y bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen at addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiantByddwn wedi sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn llwyddiannus ar draws ein hysgolion er mwyn paratoi plant ac unigolion ifanc yn well at fyd sy’n newidByddwn yn diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol plant ac unigolion ifanc yn well gan eu helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyrraedd eu llawn botensialBydd gennym fwy o gymorth er mwyn rhoi sylw i effeithiau negyddol Covid ar addysg pobl ifanc, er enghraifft oedi wrth ddysgu, gorbryder cynyddol, cymhlethdodau ymddygiad a phresenoldeb gwaelByddwn wedi helpu i roi sylw i faterion recriwtio a materion yn ymwneud â’r gweithlu yn ein hysgolion cyfrwng CymraegYn gyfraneddol, bydd mwy o bobl yn ennill cymwysterau TGAU neu’r cywerth, y mae eu hangen arnynt er mwyn byw bywydau cadarnhaolBydd mwy o bobl yn ymgymryd ag addysg gymunedol a sgiliau sylfaenol a fydd yn gymorth iddynt i gael swyddiByddwn yn datblygu rôl yr ysgol yn y gymuned a rôl y gymuned wrth gefnogi ein hysgolion | 
| 2 | Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu | 
Bydd mwy o blant yn cael gofal plant ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfrannu at ddyheadau Cymraeg 2050 Llywodraeth CymruBydd mwy o deuluoedd yn defnyddio’r rhaglen Dechrau’n DegBydd mwy o ysgolion ag arnynt angen buddsoddiad gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu moderneiddioBydd mwy o blant a phobl ifanc yn rhan uniongyrchol o benderfyniadau’r cyngor ac yn dylanwadu ar siâp gwasanaethau’r cyngorByddwn wedi lleihau ein poblogaeth o Blant sy’n Derbyn Gofal a bydd cyfran uwch yn byw gyda gofalwyr maeth mewnolByddwn wedi cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol sydd â’r sgiliau i reoli sefyllfaoedd cymhlethByddwn wedi datblygu opsiynau llety therapiwtig yn y sir ar gyfer plant ag anghenion cymhlethByddwn yn gweithio gyda mwy o bobl ifanc er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan atal pobl rhag mynd i mewn i’r system gyfiawnder troseddolByddwn wedi cefnogi mwy o ffoaduriaid i ymgartrefu yn ein cymunedauByddwn yn hyrwyddo rôl ac anghenion gofalwyr ifainc yn y gymuned, er mwyn iddynt allu defnyddio gwasanaethau mewn ffordd degByddwn yn amddiffyn plant rhag sylweddau a chynnyrch niweidiol trwy gynnal ymarferion prawf-brynu gyda phartneriaid mewn perthynas â gwerthu nwyddau sydd ag oed cyfyngedig, er enghraifft alcohol, tybaco a chyllyll | 
| 3 | Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus | 
Byddwn yn anelu at atal pob teulu ac unigolyn rhag dod yn ddigartref, trwy ymyriad a chymorth wedi’u targeduByddwn yn lleihau digartrefedd trwy weithio gyda phartneriaid i sicrhau gwell mynediad at lety addas a gwasanaethau cymorthByddwn yn gweithio gyda chymunedau i’w cefnogi i ddod yn fwy cydnerth ac yn llai dibynnol ar wasanaethau statudolBydd mwy o bobl yn dod yn fwy annibynnol gartref a thrwy ddefnyddio gwasanaethau yn eu cymuned wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau ail-alluogi yn y gymuned ymhellachByddwn yn sicrhau bod plant ag anableddau yn cael gwasanaeth o ansawdd da sy’n hyrwyddo bywyd teuluol, annibyniaeth a mynediad at gyfleusterau cymunedolByddwn wedi helpu i roi sylw i rai o effeithiau difrifol yr argyfwng costau byw a bydd dewis o gymorth ariannol ar gael i’r rheiny â’r mwyaf o angen amdanoByddwn yn dod â thai preifat newydd a thai fforddiadwy i’r farchnad trwy weithio gyda pherchnogion tir er mwyn dod o hyd i ddarnau newydd o dir ar gyfer taiByddwn yn darparu prydau bwyd am ddim i bob plentyn oed meithrin a chynraddByddwn yn gweithio’n gyda’n partneriaid a busnesau er mwyn darparu swyddi cynaliadwy da yn y Fwrdeistref sy’n galluogi pobl i fyw’n ddaByddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch trwy ymateb i gŵynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynnyBydd mwy o bobl yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy fwy o ddefnydd o dechnoleg gynorthwyol  | 
| 4 | Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol | 
Bydd mwy o bobl yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o deithio at ddibenion cymdeithasol a busnes a bydd mwy o drenau yn aros yng Ngorsafoedd Trenau Cwmbrân, Pont-y-pŵl a’r Dafarn NewyddBydd gennym fwy o lwybrau teithio llesol a mwy o bobl yn cerdded ac yn seiclo, a bydd gwell hygyrchedd i bobl anabl er mwyn iddynt allu mwynhau eu hamgylchedd lleolBydd mwy o bobl yn teithio mewn cerbydau trydan a chefnogir hynny trwy gynyddu nifer y mannau gwefru cerbydau trydan yn y sirByddwn yn gweithio gyda mwy o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol er mwyn gwella amgylcheddau lleol a chymunedauBydd mwy o bobl yn cael mynediad at wasanaethau’r cyngor trwy ddefnyddio Wi-Fi sy’n gyflymach ac ar gael yn ehangachByddwn yn defnyddio datrysiadau digidol i’n helpu i fonitro sut y mae pobl yn defnyddio canol ein trefiBydd llai o bobl wedi eu hallgau yn ddigidol diolch i fynediad gwell at fand eang | 
| 5 | Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol | 
Byddwn wedi cynyddu arwynebedd y tir sy’n eiddo i’r cyngor a reolir ar gyfer bioamrywiaethByddwn yn dod ymlaen yn dda tuag at gyrraedd ein targed o fod yn garbon sero net erbyn 2030Byddwn wedi rhagori ar ein targedau ailgylchu a byddwn yn casglu dewis ehangach o ddeunyddiau i’w hailgylchuByddwn yn cau’r rhwyd ar droseddau amgylcheddol er mwyn atal sbwriel, tipio sbwriel yn anghyfreithlon a baw cŵnByddwn yn meithrin mwy o falchder yn ein bro trwy gynnig mwy o gymorth i weithredu amgylcheddol yn y gymunedBydd adeiladau’r cyngor yn defnyddio llai o danwydd ffosil a bydd adeiladau addas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwyBydd mwy o’n cerbydau yn rhai sy’n isel iawn o ran allyriadau, gan leihau ôl troed carbon cyffredinol y cyngorByddwn wedi cynyddu gorchudd coed y fwrdeistref ac wedi sefydlu perllannau newydd er mwyn dal mwy o garbon a hyrwyddo bioamrywiaethByddwn wedi hyfforddi dros 1,000 o hyrwyddwyr hinsawdd er mwyn i staff helpu pobl i ddeall effaith eu penderfyniadau ar y newid yn yr hinsawddByddwn wedi datblygu gwarchodfa natur leol newydd er mwyn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd a chreu mannau a drysorir y gall ein cymunedau eu mwynhauByddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu’r cyfleoedd am nawdd i harddu’r amgylchedd naturiol lleol a chyflwr parciau a mannau awyr agored cyhoeddus lleolByddwn yn gwella ansawdd yr aer yn y fwrdeistref ac yn cymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd | 
| 6 | Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd | 
Byddwn wedi cefnogi busnesau yn y sir i dyfu’n economaidd drwy helpu trigolion i gael swyddi medrus, llewyrchus a diogelByddwn wedi annog twf yn nifer y mentrau bach a chanolig, microfusnesau a busnesau sy’n dechrau o’r newyddByddwn yn creu ecosystem arloesi er mwyn hyrwyddo ymchwil a datblygiad lleol yn ein busnesau i’w helpu i dyfu ac i ddod yn fwy llewyrchusByddwn wedi hyrwyddo Torfaen fel lle i fuddsoddi ac wedi gweithio gyda datblygwyr i drawsnewid safleoedd tir llwyd at ddibenion cyflogaethByddwn wedi adnabod darnau newydd o dir diwydiannol/cyflogaeth, gan weithio gyda pherchnogion tir i ddod â nhw i’r farchnadByddwn wedi gyrru gwariant yn ein heconomi leol i fyny trwy wella sgiliau lleol a thrwy ein gwariant ni ein hunain fel cyngorByddwn wedi uwchsgilio’r gweithlu lleol i ddenu cyflogwyr a’u cadwByddwn yn defnyddio rhai o adeiladau’r cyngor yn wahanol er mwyn annog cefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a diwydiannau newydd | 
| 7 | Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol | 
Bydd gan bob ysgol gynllun i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol staff a dysgwyrDylai pob disgybl fod yn gallu cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch bob dyddByddwn yn ehangu’r cymorth iechyd meddwl i bobl o bob oedByddwn yn ehangu cyfleusterau chwarae cynhwysol sy’n addas i bob plentynByddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu dewis o wasanaethau er mwyn i fwy o drigolion allu cael mynediad at weithgareddau gwirfoddoli a chymryd rhan ynddyntByddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen er mwyn i ddisgyblion ysgol gael gwell mynediad at gyfleusterauByddwn yn datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol ac yn lleihau nifer yr oedolion a’r plant ag arnynt angen gofal ffurfiolByddwn yn cynnal arolygiadau o fusnesau bwyd yn Nhorfaen er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a’r busnesau bwyd yn dweud y gwir am eu bwydByddwn yn datblygu strategaeth chwaraeon a hamdden gyda’n partneriaid er mwyn i fwy o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau iach ac er mwyn cynyddu cyfleoedd i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol | 
| 8 | Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag ef | 
Byddwn yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld â chyrchfannau i dwristiaid yn Nhorfaen gan gynnwys Fferm Gymunedol Greenmeadow a fydd wedi ei hadfywioByddwn yn adnewyddu canol ein trefi ac yn annog economi gyda’r nos gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau llefydd bwyta ac yfed o ansawdd uchelBydd Nant Blaengafog ar Y British yn cael ei thynnu allan o gylfatiau ac yn llifo mewn sianel newydd fel cam cyntaf y cynllun meistr ar gyfer Y BritishByddwn wedi lleihau lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r trais difrifol yn ein cymunedauByddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu cyfleoedd am nawdd sy’n gwella ymddangosiad cymunedau a chanol trefi ac yn helpu hyrwyddo balchder yn ein broByddwn yn hyrwyddo Torfaen fel ‘Cyrchfan’, gan weithio gyda’n hatyniadau neilltuol i ymwelwyr er mwyn i ni allu cynnig pecynnau deniadol i ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd ac yn aros dros nos, gan gynnwys safleoedd ar draws y Fwrdeistref | 
| 9 | Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau | 
Byddwn yn gyngor effeithiol sydd wedi ein galluogi’n ddigidol ac sy’n darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol gan alluogi mwy o drigolion i gwblhau eu trafodion ar-leinByddwn yn rhagweithiol wrth ddangos y ffordd i drigolion at ddewis ehangach o wybodaeth a gwasanaethau atal, er mwyn hyrwyddo llesiant a chynyddu nifer y bobl sy’n cael gwybodaeth a chefnogaeth gan eu cymunedBydd mwy o drigolion yn cael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, cyngor ac arweiniad ar unrhyw adeg, yn unrhyw fan ac yn unrhyw ardalByddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu dylunio i adlewyrchu anghenion cwsmeriaid ac nid anghenion busnes, trwy gynnwys cwsmeriaid ac ymgysylltu ac ymgynghori â nhw, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gwrando ac yn gwella |