| Strategaeth Gymunedol a Llesiant | 
Gweithio ar draws y cyngor er mwyn datblygu gwytnwch cymunedol a lleihau'r angen am wasanaethau statudol a'r baich sydd arnynt | Gwasanaethau Plant a Theuluoedd | Llai o alw / atgyfeiriadau   Gostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal o ddiwedd gwaelodlin mis Mawrth 2024.   Parhau drwy gydol 2024/25 | 
| Cymorth Gyda Threth y Cyngor a Budd-daliadau | 
Cynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n manteisio i’r eithaf ar fudd-daliadau drwy roi cyngor yn ôl yr angen ac atgyfeiriadau fel y bo'n briodol (seiliedig ar alw) | Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau | Rhoi cyngor drwy atgyfeiriadau fel y bo'n briodol | 
| 
Gweinyddu Budd-daliadau Tai yn gywir, ac yn unol â rheoliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (seiliedig ar alw) | Rhoi Budd-daliadau Tai gwerth £24 miliwn | 
| 
Rhoi Taliad Disgresiwn at Gostau Ta yn unol â pholisi perthnasol y cyngor | Rhoi Taliad Disgresiwn at Gostau Tai gwerth £429,000 | 
| 
Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn effeithlon (seiliedig ar alw) | Rhoi £10.3 miliwn i 9,600 o dderbynwyr drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor | 
| 
Rhoi Prydau Ysgol am Ddim  | Gweini 4,400 o Brydau Ysgol Am ddim | 
| Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol   | 
 Rhoi grantiau gwisg ysgol | Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau | Rhoi 3,600 o grantiau gwisg ysgol | 
| 
Rhoi taliadau gwarcheidwaeth/mabwysiadu | Rhoi 200 o daliadau gwarcheidwaeth /mabwysiadu | 
| 
Cynnal asesiadau prawf modd gofal cymdeithasol | Cwblhau 1,000 o asesiadau prawf modd gofal cymdeithasol | 
| Strategaeth Gofal Cartref   | 
Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o gynllun peilot Ardal y Gogledd, ceisio darparwr i dreialu cynllun yn Ardal y De i lywio model comisiynu seiliedig ar ardal yn y dyfodol a fydd yn gwella canlyniadau i drigolion a chapasiti yn y farchnad gofal cartref. | Gwasanaethau Oedolion | Ch3: Dychwelyd Datganiadau o ddiddordeb Ch4: Ardal y De ar waith
 | 
| 
Cynyddu'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol i ategu at y gwasanaethau gofal uniongyrchol neu eu disodli, er mwyn cefnogi pobl i gynnal a chyflawni lefelau uwch o annibyniaeth. | Gwasanaethau Oedolion | Ch3 Strategaeth Technoleg Gynorthwyol ar waith | 
| 
Datblygu ymyriadau recriwtio a chadw ar gyfer pob gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn Nhorfaen er mwyn gallu cynnal gweithlu sefydlog | Gwasanaethau Oedolion | Ch2: Cwmpas yr Ymyriad wedi'i gwblhau | 
| 
Gweithredu a monitro perfformiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn ei flwyddyn gyntaf (Drws Ffrynt) | Gwasanaethau Oedolion | Ch1: Gwasanaeth wedi cael ei weithredu Ch3: System wedi’i hadolygu
 | 
| 
Gweithredu a monitro perfformiad y Gwasanaeth Ail-alluogi newydd yn ei flwyddyn gyntaf | Gwasanaethau Oedolion | Ch1: Gwasanaeth wedi’i weithredu Ch3: System wedi’i hadolygu
 | 
| 
Paratoi i gaffael System Rheoli Gofal newydd (i’w weithredu yn 2025/26) | Gwasanaethau Oedolion | Ch1: Cadarnhawyd y cwmpas | 
| Strategaeth Cymunedau | 
Adolygu ac alinio comisiynu cymunedol (Adolygu Grant y Trydydd Sector yn sylweddol) i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r gofynion Cynghori, Cymorth ac Atal ym mhob un o'n cymunedau | Cymunedau ac Adnewyddu | Diwedd Ebrill (Ch1): Cytuno ar gwmpas adolygu grant y Trydydd Sector yn sylweddol gan gynnwys cerrig milltir y prosiect
 
 Ch2: Cyflwyno argymhellion o ran cymeradwyo a llinell amser i'w gweithredu
 
 Ch3: Cymeradwyo | 
| 
Gweithio gyda phob Cyngor Cymuned i baratoi cynllun gweithredu ar gyfer sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wella gwytnwch a lles yn eu cymuned | Cymunedau ac Adnewyddu | Ch1: Cytuno at Gynlluniau Gweithredu gyda phob ardal Cyngor Cymuned Ch1: Cyflwyno a lledaenu hyfforddiant ar drawma i hybiau cymunedol
 Ch1: Canfod a grymuso arweinwyr cymunedol i ddatblygu seilwaith cymunedol
 Ch2: Cyflwyno hyfforddiant ar arddull "Hyfforddi’r Hyfforddwr" i arweinwyr cymunedol
 Ch2: Sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer hyrwyddwyr cymunedol yn cyd-fynd â’r Dull Rhwydwaith Lles Integredig
  Ch3: Cymeradwyo
 | 
| Strategaeth Llesiant Cymunedol | 
Nifer yr achosion o gysylltwyr cymunedol a gaewyd na chawsant eu hagor wedi hynny i’w hasesu gan ofal cymdeithasol yn ystod y 6 mis nesaf | Cymunedau ac Adnewyddu | 100 o achosion Cysylltwyr Cymunedol na chawsant eu hagor wedi hynny i’w hasesu gan ofal cymdeithasol yn ystod y 6 mis nesaf | 
| 
Cofnodi nifer yr achosion o Gysylltwyr Cymunedol a gaewyd, sydd wedi cynnal neu wella annibyniaeth | 30 o achosion Cysylltwyr Cymunedol a gaewyd, sydd wedi cynnal neu wella annibyniaeth | 
| 
Cyfranogwyr y mae eu hiechyd meddwl a lles wedi gwella yn ystod y cyfnod y maent yn gadael y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn | 110 o gyfranogwyr y mae eu hiechyd meddwl a les wedi gwella yn ystod y cyfnod y maent yn gadael y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn | 
| 
Nifer y neuaddau cymunedol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol sy'n bodloni'r blaenoriaethau lles cymunedol a nodwyd | 10 neuadd gymunedol yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth | 
| Strategaeth Llesiant Cymunedol | 
Cynnal cyfran y bobl sy'n ystyried bod gwasanaeth cymorth i chwilio am Swydd yn y llyfrgelloedd yn ddefnyddiol ar 98% neu uwch | Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd | 98% o bobl yn teimlo bod y gwasanaeth cymorth i chwilio am swydd yn ddefnyddiol | 
| Grant Cymorth Tai | 
Darparu Cynllun Ailgartrefu Cyflym 2024/25 a rhaglenni Grant Cymorth Tai fel rhan o'n nod i atal digartrefedd a darparu'r llety a'r cymorth cywir i unigolion sy'n ddigartref | UCGC | Ch2: Cwblhau Pearl House a brysbennu Ch3: Archwiliad Anghenion Hyfforddi
 Ch4: Datgomisiynu 14 o Unedau TA sydd o Ansawdd Gwael
 | 
| 
Ail-lunio ac ailffocysu llwybr llety ieuenctid er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc mewn angen ac mewn perygl o fod yn ddigartref | Cwblhau’r Adolygiad Ch2 2024/25 | 
| 
Ychwanegu 20 o unedau tai â chymorth ychwanegol ac ail alinio’r ddarpariaeth llety â chymorth i leihau'r nifer sydd mewn perygl o ddigartrefedd | Darparu 20 o unedau tai â chymorth ychwanegol i'r rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd erbyn mis Mawrth 2025 | 
| 
Atal digartrefedd mewn o leiaf 50% o achosion lle mae perygl o ddigartrefedd | Atal <50% o achosion digartrefedd | 
| 
Canran yr aelwydydd sydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy ar ddiwedd pob chwarter | <20% o aelwydydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy | 
| Prydau Ysgol Am ddim i Bawb | 
Gweini cyfanswm o 702,000 o brydau maethlon i ddisgyblion cynradd | Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau | Gweini 702,000 o brydau bwyd i ddisgyblion cynradd erbyn mis Mawrth 2025 | 
| Cynllun Datblygu Lleol | 
Byddwn yn sicrhau cartrefi fforddiadwy drwy'r system gynllunio | Cynllunio a Rheoli Adeiladu | Cael ei arwain gan y cais | 
| 
Byddwn yn sicrhau 150 o gartrefi fforddiadwy i'w gwerthu yn ystod 3 blynedd olaf y Cynllun Sirol | Tai | 50 o gartrefi (yn ystod 2024/25) | 
| Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Deddf Tai (Cymru) 2014; a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016) | 
Byddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch drwy ymateb i gwynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynny. | Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd | Mawrth 2025 | 
| Gwytnwch Bwyd a Rhaglen Ffyniant Gyffredin Bwyd i Dyfu | 
Creu a chyflwyno Strategaeth Fwyd yn seiliedig ar adroddiad ymgynghori Cysylltiadau Tyfu Bwyd gyda'r nod o gyflawni Blaenoriaethau Bwyd Da Torfaen sydd wedi’u cynnwys yn Siarter Bwyd Torfaen. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy greu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 2025-2026. | Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo | Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar waith erbyn mis Mawrth 2025 | 
| 
Cyflwyno Cynllun Grant Datblygu Bwyd sy'n canolbwyntio ar fusnes |  £150,000 – darparu cyfanswm o 19 o Grantiau Datblygu Bwyd | 
| 
Cyflwyno Cynllun Bwyd Cymunedol, cefnogi prosiectau bwyd cymunedol yn y trydydd sector i wella’r gallu i gael hyd i fwyd fforddiadwy ac iachus. | £272,000 – darparu cyfanswm o 17 o Grantiau Cynllun Bwyd Cymunedol |