Monitro Risg
Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i Gynghorau fod yn atebol am y ffordd y mae eu gwasanaethau yn perfformio, ac i sicrhau bod mecanweithiau addas yn eu lle i adolygu perfformiad yn gyson trwy hunanasesu cadarn. Mae ein trefniadau llywodraethu yn chwarae rhan hanfodol i'n galluogi i gyflawni ein swyddogaethau a defnyddio'n hadnoddau yn effeithiol. Mae rheoli a monitro risgiau yn rhan o'r trefniadau llywodraethu hynny.
Rhan allweddol o drefniadau'r Cyngor, wrth gyflawni'r cyfrifoldeb statudol hwn, yw cael un dull o reoli risgiau ar waith ar draws y Cyngor. Felly, mae proses barhaus ar waith, ac mae’r broses honno’n datblygu trwy’r amser. Mae'n cael ei hadolygu'n rheolaidd fel bod y Cyngor mewn sefyllfa gadarn i:
- Gyflawni ei flaenoriaethau;
- Darparu gwasanaethau gwell ar gyfer y cyhoedd;
- Gweithio'n well fel partner gyda sefydliadau eraill; a
- Chyflawni gwerth am arian.
Mae gan y Cyngor weithdrefn ar gyfer adnabod risgiau a'u rheoli. Mae pob risg a nodir yn cael sgôr tebygolrwydd ac effaith sy'n ei gosod fel risg haen Gorfforaethol, Cyfarwyddiaeth neu Wasanaeth.
Mae pob cyfarwyddiaeth yn cynnig camau lliniaru i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd. Mae effeithiolrwydd y camau lliniaru hyn yn cael eu monitro'n chwarterol ac mae lefel pob risg yn cael ei hailasesu fel bod y Cyngor yn gwybod am unrhyw fygythiadau posibl i’r broses o ddarparu gwasanaethau neu gyfleoedd a gollwyd.
Gellir lawrlwytho copi o Gofrestr Risg gyfredol y Cyngor yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Nôl i’r Brig