Adeiladu dyfodol cynaliadwy i Dorfaen

Mae deddf wedi'i chyflwyno yng Nghymru i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn cael ei ymwreiddio yn y sector cyhoeddus: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae'r ddeddfwriaeth yn cydnabod bod Cymru a'r byd yn wynebu cyfres o heriau cymhleth. Felly, mae angen mynd ati nawr i gymryd camau ar y cyd os nad ydym am adael problemau y bydd rhaid i genedlaethau'r dyfodol fynd i’r afael â nhw.

Mae’n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lynu at egwyddorion datblygu cynaliadwy o dan y ddeddf. Mae hyn yn golygu gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy geisio sicrhau 'bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain'. Gelwir hyn yn Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Gallwch ddarganfod mwy drwy wylio'r ffilm fer: Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  

Mae'r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod amcanion llesiant a disgrifio'r camau y byddwn yn eu cymryd i'w cyflawni.  

Rhaid i ni hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud i gyflawni ein hamcanion. 

Mae Torfaen y Dyfodol: Cynllun Sirol yn nodi naw Amcan Llesiant y Cyngor. Gellir gweld ein 9 Amcan Llesiant ar gyfer 2022/27 yma.

Mae Strategaeth Caffael Cymdeithasol Gyfrifol y cyngor yn cefnogi’r amcanion sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Yn ogystal â dyletswydd unigol y cyngor i bennu ein hamcanion llesiant ein hunain, mae gennym hefyd ddyletswydd ar y cyd i ddod at ein gilydd drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i bennu amcanion llesiant ar y cyd. 

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn bartneriaethau statudol sy'n dod â gwasanaethau cyhoeddus ynghyd mewn ardal i wella llesiant, nawr, ac yn y tymor hir. Mae'n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus asesu llesiant yr ardaloedd y maent yn eu cwmpasu, a pharatoi cynlluniau llesiant ar gylch pum mlynedd. 

Mae Amcanion Llesiant a Chynllun Llesiant BGC Gwent i’w gweld yma. 

Mae’n ddyletswydd ar gynghorau i wella llesiant yn y tymor hir, drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ni allwn wneud hynny oni bai ein bod yn cydweithio i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.  

Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig