| Rhaglen | Eleni byddwn yn… | Eleni, rydym ni wedi... | Nodau llesiant | 
|---|
| Cymorth gyda’r Dreth Gyngor a Budd-daliadau | 
Gweinyddu £23miliwn i helpu gyda rhent - CWBLHAWYDGweinyddu £10miliwn i helpu gyda’r dreth gyngor - CWBLHAWYDHelpu pobl i osgoi ôl-ddyledion rhent neu i osgoi colli eu cartrefi trwy £324,938 o daliadau tai disgresiynol - CWBLHAWYD | 
Helpu pobl i osgoi tlodi drwy werth £23,981,833 o fudd-daliadau rhentDarparu £10,218,389 mewn cymorth treth y cyngorHelpu pobl i osgoi ôl-ddyledion rhent neu golli eu cartref, drwy  449,224 o daliadau disgresiwn at gostau tai | Cydlynus   Cyfartal   Iachach | 
| Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw | 
Parhau i dalu taliadau tanwydd gaeaf a dyrannu £855,734 ar gyfer taliadau disgresiynol costau byw - CWBLHAWYDHyrwyddo cynllun gostyngiad y dreth gyngor ymhlith aelwydydd cymwys - CWBLHAWYDTalu taliadau o £500 i ofalwyr di-dâl cymwysTalu taliadau costau byw o £150 i breswylwyr eiddo ym mandiau treth gyngor A, B, C a D ac i bobl sy’n cael cynllun gostyngiad y dreth gyngor - CWBLHAWYDHelpu trigolion i gael mynediad at Gronfeydd Cymorth Disgresiynol - GLYNU AT Y TARGEDCefnogi cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i roi cyngor am ynni ac arbedion ar gyfer y cartref - CWBLHAWYDRhoi bron i £400k mewn taliadau ychwanegol o £150 i gefnogi teuluoedd sy’n cael prydau ysgol am ddim - CWBLHAWYDRhoi tua £160K o gymorth gyda chostau ynni trwy dalebau ynni, gyda’n partneriaid - GLYNU AT Y TARGEDGweithio gyda Chyngor ar Bopeth i roi cyngor a chymorth yn ymwneud â chynhwysiant ariannol ac i sicrhau bod trigolion yn uchafu eu hincwm - GLYNU AT Y TARGEDDatblygu tudalen costau byw arbennig ar wefan y cyngor Cymorth Costau Byw | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - CWBLHAWYDAnfon e-gylchlythyr misol Craff a Chynnil sy’n cynnwys y diweddaraf am fudd-daliadau, grantiau a chymorth sydd ar gael i helpu arbed arian - CWBLHAWYD | 
Talu gwerth £1m o daliadau tanwydd y gaeafDosbarthu taflenni. Cynnig cyngor ar Gostau Byw i 43,049 o aelwydydd a datblygu adran cyngor ar Gostau Byw penodol ar wefan Cyngor TorfaenProsesu 2,302 o hawliadau am daliadau gofalwyr di-dâl gwerth £500Talu gwerth £5.5m o daliadau Costau Byw mewn symiau o £150Helpu 118 o aelwydydd i gael hyd i Gyllid Cymorth DewisolDosbarthu 971 o lythyrau i aelwydydd ynglŷn â chymorth Cartrefi Cynnes NYTHRhoddwyd gwerth dros £77,000 o dalebau ynni195 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn Nhrefddyn, Garndiffaith, Pont-y-pŵl a Chwmbrân | Cydlynus   Cyfartal   Iachach   Cydnerth | 
| Cynllun Datblygu Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc | 
Parhau i weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn adnabod pobl ifanc a theuluoedd a gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ac yn ymgysylltu, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac allgau - GLYNU AT Y TARGEDAdolygu effaith y gwasanaeth cwnsela craidd a’r adnoddau ychwanegol er mwyn penderfynu a oes angen cynnal y cymorth ar y lefel uwch hon ar gyfer plant a phobl ifanc ai peidio - OEDI | 
Trosglwyddo’r broses adolygu i'r gwasanaeth seicoleg addysgol a bydd adolygiad i fesur effaith ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth yn digwydd yn ystod tymor yr haf | Cydlynus   Llewyrchus   Iachach   Cyfartal | 
| Cynllun Datblygu Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc | 
Datblygu rhaglen rhwydwaith gymdeithasol i bobl ifanc 16+ y mae ynysu ac unigrwydd yn effeithio arnynt yn ganlyniad i anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol - GLYNU AT Y TARGEDGweithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gynyddu mannau i rieni ifanc sydd eisiau cymorth - GLYNU AT Y TARGEDSicrhau bod gofalwyr ifainc yn parhau i gael eu hadnabod a’u hasesu a bod cyfathrebu gydag asiantaethau allweddol yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau  - GLYNU AT Y TARGEDParhau i weithio mewn partneriaeth gydag adran Arlwyo Torfaen i gyflwyno'r prosiect Bwyd a Hwyl i ysgolion drwy gydol gwyliau'r haf - GLYNU AT Y TARGED | 
Targedu’r ddarpariaeth at bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddauCefnogi 15 o rieni ifanc a'u plantCreu cerdyn ID i Ofalwyr Ifanc i gynnydd gwelededd a darparu mynediad am ddim i gyfleusterau ac atyniadau hamdden lleolCynlluniau ar gyfer 13 gwersyll Bwyd a Hwyl mewn 12 ysgol gynradd ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân | Cydlynus   Iachach   Cyfartal   Llewyrchus | 
| Strategaeth Gofal Cartref   Tŷ Glas y Dorlan | 
Cynyddu gwasanaethau gofal sy’n seiliedig ar ardaloedd penodol, o amgylch cymunedau, er mwyn gwella canlyniadau i drigolion a gwella capasiti’r farchnad ofal - OEDICynyddu’r ddarpariaeth gan wasanaethau galluogi er mwyn i drigolion gael mwy o fudd o ofal a chymorth a magu mwy o annibyniaeth gartref - OEDIYmgysylltu â darparwyr gofal cartref er mwyn cynllunio gwasanaethau gofal yn Nhorfaen a’u darparu - OEDICytuno ar ffioedd gyda darparwyr Gofal Cartref er mwyn cynnal sefydlogrwydd a dewis yn y farchnad - OEDIGweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol er mwyn gwella’r broses o drosglwyddo gofal, gan leihau amserau aros ar gyfer pecynnau gofal ac atal derbyniadau i’r ysbyty y gellid fod wedi eu hosgoi trwy ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, gan atal yr angen am ofal nyrsio neu ofal preswyl sy’n fwy o ofal - OEDIDefnyddio mwy o dechnoleg gynorthwyol i gyd-fynd â gwasanaethau gofal uniongyrchol neu i gymryd eu lle, er mwyn cefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol a chynnal y lefelau annibyniaeth hynny - GLYNU AT Y TARGEDGweithio ar draws y cyngor er mwyn datblygu cydnerthedd cymunedol, a lleihau’r angen am wasanaethau statudol a’r baich arnynt - OEDIAdolygu’r ddarpariaeth gofal cartref er mwyn pennu’r buddion ac ystyried rhinweddau trefniadau presennol neu drefniadau gwahanol (h.y. gwasanaethau a gomisiynir yn erbyn y model mewnol) - OEDICynnal lefel y gofal cartref sy’n cael ei darparu’n fewnol, o leiaf, gan atal yr angen am fwy o ofal nyrsio a phreswyl - GLYNU AT Y TARGEDDefnyddio arosiadau byr yn Nhŷ Glas y Dorlan i helpu trigolion i fagu hyder a chynnal gweithgareddau byw bob-dydd er mwyn iddynt allu dychwelyd adref ac osgoi gorfod cael gofal - OEDIAdolygu effeithiolrwydd a swyddogaethau Tŷ Glas y Dorlan - CWBLHAWYD |  | Iachach   Llewyrchus   Cyfartal   Cydlynus | 
| Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Dydd | 
Adolygu a datblygu’r llwybr atgyfeirio i mewn i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn datblygu’r cynnig cymunedol ac atal unigolion rhag derbyn gwasanaethau statudol yn ddiangen - GLYNU AT Y TARGEDGwella’r cynnig cymunedol er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion dinasyddion heb yr angen am wasanaethau statudol - GLYNU AT Y TARGEDAdolygu’r ffordd o fynd i mewn i wasanaethau gofal cymdeithasol statudol i oedolion a diwygio’r model presennol yn ôl yr angen ac fel y pennir gan yr adolygiad, er mwyn rheoli’r galw a sicrhau bod y rheiny â’r lefel anghenion angenrheidiol yn cael y gwasanaethau statudol hyn - OEDI |  | Cydlynus   Iachach   Cyfartal | 
| Grant Cymorth Tai | 
Datblygu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym er mwyn cefnogi ei weithrediad - OEDIDatblygu’r gwasanaethau canlynol yn rhan o Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a’r Cynllun Cyflawni: - GLYNU AT Y TARGED
 
Cynyddu unedau tai â chymorth ac ail-alinio darpariaeth llety â chymorthDatblygu llety brys a hwb asesuGweithredu Polisi HomeseekerDatblygu Polisi a phrosesau Symud Ymlaen, a’u mabwysiaduAdolygu Cynllun Cyflawni’r Rhaglen Cymorth Tai |  | Cydlynus   Iachach   Cyfartal | 
| Grant Tai Cymdeithasol | 
Gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill er mwyn adnabod tir mewn perchnogaeth gyhoeddus a phreifat sy’n addas ar gyfer tai cymdeithasol a thai fforddiadwy - OEDIGweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i ganfod tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy - OEDIParhau i ymgysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig - GLYNU AT Y TARGED |   | Iachach   Cyfartal   Cydlynus   Llewyrchus | 
| Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb | 
Buddsoddi £715,000 ychwanegol yng ngheginau ysgolion a chyflogi 24 aelod o staff cegin ychwanegol er mwyn darparu Prydau Ysgol Am Ddim i holl ddisgyblion Torfaen yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2 o fis Medi 2022 - CWBLHAWYDDarparu 231,000 o brydau ysgol am ddim ychwanegol o fis Medi 2022 gyda rhagamcan y darperir dros 600,000 o brydau ysgol am ddim ar draws y fwrdeistref yn ystod y flwyddyn gyfan - GLYNU AT Y TARGEDGweini cyfanswm o 818,802 pryd maethlon o fwyd ar gyfer disgyblion cynradd - OEDI |  | Iachach   Cyfartal | 
| Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau   Cynllun Cyflawni’r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Strategaeth   Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf Cynllun   Cyflawni’r Dull Cymunedau | 
Creu ‘map cyfalaf cymdeithasol’ erbyn mis Mawrth 2023 fel cymorth i flaenoriaethu’r ymyrraeth gynnar a gyflwynir i bob cymuned, er mwyn targedu cymorth i feithrin gallu - CWBLHAWYDGweithio gyda Chynghorau Cymuned i ddatblygu dull gweithredu i wella llesiant cymunedol ac adnabod yn gynnar - GLYNU AT Y TARGED |  | Llewyrchus   Iachach   Cyfartal   Cydlynus | 
| Grant y Gwasanaethau Tai | 
Anelu at atal unigolion a theuluoedd rhag dod yn ddigartref mewn 50% o’r achosion - GLYNU AT Y TARGEDLleihau’r amser y mae unigolion a theuluoedd yn aros mewn llety dros dro - OEDI | 
Lleihau nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro am fwy na chwe mis o 27.5% i 17.3% | Iachach   Cyfartal | 
| Atal digartrefedd (fel uchod) i weithio gydag unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl o golli eu cartrefi oherwydd trafferthion ariannol | 
Bydd y tîm yn cefnogi hyd at 100 o drigolion sydd mewn trafferthion ariannol i uchafu eu hincwm - GLYNU AT Y TARGED |  | Iachach   Cyfartal | 
| Deddf Trosedd ac Anrhefn trwy Ymyrraeth Amlasiantaeth i Ddisgyblion (MAPI) mewn ysgolion | 
Defnyddio ein proses Camymddwyn Deirgwaith ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gan dargedu canlyniadau cadarnhaol yn 90% o’r ymyriadau ac atal pobl ifanc rhag symud ymlaen at waharddeb neu gael eu derbyn i’r system gyfiawnder troseddol - CWBLHAWYD |  | Cydlynus   Iachach | 
| Annog a hyrwyddo plant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn iddynt allu ffynnu   Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc | 
Cyflwyno gweithdai i dros 50 o bobl ifanc am hyfforddi i fod yn gynrychiolydd ieuenctid effeithio - GLYNU AT Y TARGED | 
Fforwm Pobl Ifanc Torfaen i gwrdd 12 gwaith y flwyddyn i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc a hybu llais yr ifanc ar faterion fel Addysg, dod yn Llysgenhadon Iechyd a hyfforddi i fod yn llysgenhadon hinsawddCyd-gyflwyno digwyddiad holi cwestiynau ar gyfer Pobl Ifanc Gwent i dro 50o bobl, mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i daclo eu canfyddiadau o droseddMae 60 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant i fod yn gynrychiolydd ieuenctid effeithiol | Cydlynus   Cyfartal |