Cwestiynau Cyffredin ailgylchu batris

Beth yw’r gwasanaeth casglu batris?

O Dydd Llun 3 Ebril 2023, byddwn yn cyflwyno casgliad wythnosol am ddim ar gyfer eich batris cartref, a fydd yn eich galluogi i osod eich hen fatris mewn bag plastig clir bach i’w hailgylchu a’u rhoi yn eich blwch ailgylchu du.

Pa fathau o fatris gallaf i roi yn fy mlwch ailgylchu?

Gallwch roi yn eich bag pob math o fatris cartref hen neu ddiangen, fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V.

Pa fathau o fatris na ddylwn i roi yn fy mlwch ailgylchu?

Peidiwch â rhoi’r mathau canlynol o fatris yn eich bag i ni gasglu os gwelwch yn dda:

  • Batris ‘botwm’ ïon lithiwm, fel y rheiny sy’n cael eu defnyddio mewn cyfrifianellau, cymhorthion clyw ac oriorau
  • Batris E-sigarennau
  • Batris y gellir eu hailgylchu o liniaduron, ffonau symudol, offer pŵer a sugnlanhawyr
  • Batris ceir
  • Gwefrwyr batri

Os oes angen i chi gael gwared ar y mathau yma o fatris, ewch â nhw at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os gwelwch yn dda

Pam nad ydych chi’n casglu rhai mathau o fatris?

Dydyn ni ddim yn casglu’r mathau canlynol o fatris am y rhesymau a nodir isod.

Batris ‘botwm’ ïon lithiwm, fel y rheiny sy’n cael eu defnyddio mewn cyfrifianellau, cymhorthion clyw ac oriorau

Er mwyn i ni gasglu’r mathau yma o fatris yn ddiogel, byddai rhaid i drigolion ddilyn cyfarwyddiadau llym i lapio darn o dâp gludiog (fel Sellotape) o’u cwmpas cyn eu rhoi allan i ni eu casglu.  Os na chaiff hyn ei wneud, neu os yw’r tâp yn methu â gorchuddio’r ‘cysylltiadau’ ar y batris gan adael i’w ‘terfynellau’ gysylltu â batris eraill, gallai o bosibl achosi gollyngiad trydanol peryglus, gan arwain at wreichionyn neu dân.

Batris E-sigarennau

Mae’r rhan fwyaf o fatris mewn e-sigarennau wedi eu selio (neu wedi eu sodro) y tu fewn i’r ddyfais, ac felly nid oes modd eu tynnu allan.

Batris y gellir eu hailgylchu o liniaduron, ffonau symudol, offer pŵer a sugnlanhawyr

Nid ydym yn gallu gwarantu y bydd gennym ddigon o le yn ein cerbydau i gasglu’r math yma o fatris ar ben y batris llai o’r cartref fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V batris.

Batris ceir

Mae batris ceir fel arfer yn fawr ac yn drwm, sy’n golygu na fyddai gyda ni ddigon o le yn ein cerbydau i gasglu’r math yma o fatris.  Maen nhw hefyd yn cynnwys asid plwm peryglus sy’n gollwng yn aml, ac mae hyn yn beryglus i’n staff ac yn gallu difrodi ein cerbydau.

Gwefrwyr batri

Fel batris y gellir eu hailgylchu o liniaduron, ffonau symudol, offer pŵer a sugnlanhawyr (nodwyd uchod), ni allwn warantu y bydd yna ddigon o le yn ein cerbydau i gasglu’r mathau yma o eitemau ochr yn ochr â batris llai o’r cartref, fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V.

Os oes angen i chi gael gwared ar y mathau yma o fatris, ewch â nhw at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os gwelwch yn dda

Pam fod angen i’r batris fod mewn bag plastig ar wahân?

Pan fo batris yn cael eu hailgylchu gyda deunyddiau eraill, fel plastig a chaniau, maen nhw’n gallu ffrwydro neu achosi tanau, sy’n beryglus i’n staff, yn gallu achosi difrod i offer prosesu ailgylchu, ac yn ddrwg i’r amgylchedd.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am beryglon casglu batris yn gymysg â deunyddiau eraill.

Beth sy’n digwydd i’r batris unwaith y byddwch chi wedi eu casglu?

Unwaith y byddan nhw wedi cael eu casglu, bydd y batris yn cael eu didoli ac yna eu rhwygo er mwyn casglu’r deunyddiau craidd sy’n cael eu defnyddio i’w creu, gan gynnwys nicel, sinc, cadmiwm a lithiwm. Bydd y deunyddiau yma’n cael eu hailgylchu i greu cynhyrchion newydd, fel offer electronig neu fatris newydd. Gallai’r lithiwm a gesglir gael ei ddefnyddio hyd yn oed i yrru ceir trydan!

Sut ddylwn i gael gwared ar hen e-sigarennau?

Mae e-sigarennau’n cynnwys nifer o ddarnau gwahanol a dylent gael eu hailgylchu yng Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: waste@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig