Rhentu preifat

Mae'n rhaid i landlordiaid preifat yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae peidio â chofrestru yn drosedd. 

Gallwch weld a yw landlord wedi cofrestru drwy roi clic ar Gofrestr Gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein.  Os nad ydyw, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar 03000 133344.

Atgyweirio a chynnal a chadw

Y cyngor sy'n gyfrifol am reoleiddio cyflwr tai a diogelwch yn y sector rhentu preifat yn Nhorfaen. 

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys: 

  • Cynnal asesiadau ar dai rhent preifat, o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai
  • Ymchwilio i gŵynion sy’n ymwneud â niwsans cyhoeddus, fel eiddo budr, safleoedd niweidiol, sbwriel yn cronni mewn gerddi, aroglau sy’n peri niwsans ac anifeiliaid a gedwir mewn eiddo, os ydynt yn peri niwsans.
  • Ymchwilio i ymholiadau mewn perthynas ag eiddo gwag.
  • Ymchwilio i gŵynion am leithder a dirywiad a lle mae cyflwr gwael un eiddo yn effeithio ar un arall.
  • Ymchwilio i faterion sy'n codi o ddraeniau preifat a charthffosydd diffygiol.
  • Ymchwilio i honiadau o landlordiaid yn aflonyddu neu droi allan yn anghyfreithlon.

Gallwn gynnig help a chyngor os yw landlord yn gwrthod gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol. 

Efallai  gallwn hefyd gymryd camau gorfodi.  

Rhoi gwybod am broblem gydag eiddo rhent preifat

Aflonyddu a throi allan yn anghyfreithlon

Mae'n anghyfreithlon i landlord aflonyddu ar denant neu ei orfodi i adael ei gartref.  

Rhaid i landlordiaid ac asiantau gosod ddilyn y broses gywir i droi tenantiaid allan.  

Ni ellir troi tenantiaid allan am ofyn am atgyweiriadau neu gwyno am amodau peryglus, p'un ai bod arnoch chi rent neu os yw eich contract cyfnod penodol wedi dod i ben. 

I gael cyngor, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd ar public.health@torfaen.gov.uk 

Rhoi gwybod am broblem gydag aflonyddu

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae'r dolenni isod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i bobl sy'n rhentu cartref yn breifat:  

Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Safonau Tai a Diogelu'r Amgylchedd

Ffôn: 01633 647622

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig