Digartrefedd

Does dim rhaid i chi fod yn byw ar y stryd i gael eich ystyried yn ddigartref. Efallai y gallwn ni helpu hefyd os:  

  • Ydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf
  • Rydych wedi cael hysbysiad i adael eich cartref neu lety
  • Gallwch aros lle rydych chi am gyfnod dros dro yn unig
  • Rhaid i chi symud oherwydd trais neu fygythiadau
  • Rydych chi’n byw mewn amodau gorlawn
  • Rydych wedi cael eich cloi allan o'ch cartref
  • Rydych yn byw mewn carafán neu gwch preswyl ond heb unman i'w roi
  • Mae eich cartref mewn cyflwr mor wael, mae’n niweidio'ch iechyd
  • Nid ydych wedi cael caniatâd i aros lle rydych chi
  • Rydych wedi cael eich gorfodi i fyw ar wahân i’ch teulu am nad yw eich llety yn addas i chi gyd fyw ynddo gyda’ch gilydd

Gallwch wneud cais digartrefedd drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Datrysiadau Tai ar 01495 742303 / 742301 neu housingsolutions@torfaen.gov.uk

Dim ond un cais digartrefedd sydd ei angen arnoch fesul cartref.   

Gofynnir i chi: 

  • Gofynnir i chi pa amgylchiadau sydd wedi achosi i chi ddod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd
  • eich anghenion tai, ac anghenion unrhyw berson sy'n byw gyda chi
  • P'un a ydych chi, neu unrhyw un sy'n byw gyda chi, angen cymorth
  • Yr hyn yr ydych am ei gyflawni drwy wneud y cais. 

Gofynnir i chi ddarparu rhestr o wybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i'n helpu i asesu eich cais, fel ID ar gyfer holl aelodau’r aelwyd ac unrhyw wybodaeth arall am eich amgylchiadau.  

Bydd cynllun tai personol yn cael ei gwblhau gyda chi.  Bydd hyn yn nodi'r camau y bydd y Gwasanaeth Datrysiadau Tai yn eu cymryd ar eich rhan a'r camau y bydd angen i chi eu cymryd i wella'ch sefyllfa.. 

Beth allwch chi ei wneud os oes rhywun yn cysgu ar y stryd? 

Os ydych chi'n ymwybodol o rywun a allai fod yn cysgu ar y stryd, cysylltwch â ni i ddweud ble maen nhw.  

Gallwch roi gwybod drwy Street Link neu drwy gysylltu â’n partneriaid cymorth, The Wallich ar 01495 366895.

Gallwch hefyd gysylltu â Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200 neu fe allwch roi gwybod ar lein, isod.  

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn cysgu ar y stryd, felly gofynnwn i bobl barchu eu preifatrwydd a pheidio â rhannu gwybodaeth amdanynt ar gyfryngau cymdeithasol.. 

Rhoi gwybod os ydych yn gofidio am berson digartref

Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Digartrefedd

Ffôn: 01495 742302

E-bost: housingsolutions@torfaen.gov.uk

 

Mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig