Eiddo Gwag
Rhoi gwybod am gartrefi gwag
Os yw eiddo preifat yn wag ac yn achosi problemau, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd ar public.health@torfaen.gov.uk neu 01495 762200. Bydd swyddog yn ymweld â’r eiddo ac yn asesu'r sefyllfa.
Os byddwn yn cael gwybod am eiddo gwag, byddwn yn ceisio:
- Dod o hyd i’r perchennog
- Rhoi gwybod iddynt am unrhyw broblemau a adroddwyd i ni
- Blaenoriaethu camau gorfodi ar eiddo sy’n achosi problemau a pherchnogion nad ydynt yn cydweithredu
Camau cyfreithiol
Rydym yn barod i gymryd camau cyfreithiol os oes gennym dystiolaeth o’r canlynol:
- Gwastraff sydd wedi cronni neu ordyfiant sy’n achosi problemau plâu
- Niwsans i bobl sy’n byw’n agos
- Perygl difrifol o anaf sy'n deillio o gyflwr yr adeilad
- Adeiladau sydd wedi'u hesgeuluso ac sy’n ansefydlog, ac yn niweidiol i'r ardal leol
Pan na fydd perchnogion eiddo gwag yn cydymffurfio, a’r holl drafodaethau wedi methu, bydd Cyngor Torfaen yn cymryd camau gorfodi i sicrhau bod yr eiddo gwag yn cael ei ddychwelyd i gyflwr y gellir byw ynddo, a’i ailddefnyddio. Gall camau gorfodi gynnwys gorchmynion rheoli anheddau gwag, gorfodi ei werthu, gorchmynion prynu gorfodol neu gaffael gwirfoddol.
Benthyciad i Landlordiaid
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnig benthyciadau di-log i helpu’r sawl sy’n berchen ar eiddo gwag i ddychwelyd yr eiddo i gyflwr lle gellir ei ailddefnyddio.
Gall unigolion a chwmnïau wneud cais am y benthyciad os ydynt yn berchen ar eiddo gwag neu'n ystyried prynu eiddo gwag yn Nhorfaen.
Mae'r benthyciad ar gael ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis neu fwy.
Uchafswm y benthyciad yw £25,000 fesul eiddo neu uned, hyd at gyfanswm o £250,000 fesul ymgeisydd.
Mae arian yn cael ei dalu ymlaen llaw i'r perchennog a bydd angen ei ad-dalu o fewn:
- 2 flynedd os bydd yr eiddo yn cael ei werthu
- 5 mlynedd os bydd yr eiddo’n cael ei rhentu
Nid oes unrhyw ad-daliadau misol, a gall yr ymgeisydd ad-dalu'r benthyciad yn gynharach na'r amser a bennwyd.
Ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais presennol, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo. Rhaid gwarantu’r benthyciad drwy daliad cyntaf neu ail daliad yn erbyn yr eiddo. Os oes morgais ar yr eiddo ar hyn o bryd, mae angen i'r benthycwyr ganiatáu i warantu ein tâl.
I gael mwy o wybodaeth am y Benthyciad i Landlordiaid, cysylltwch ar 01495 742629 neu housingenabling@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 29/10/2024
Nôl i’r Brig