Help2Own Plus
Beth yw Help2Own Plus?
Os ydych yn gweithio ond angen help i brynu neu rentu eich cartref eich hun, gall y cynllun Help2Own Plus helpu.  
Mae'r bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol yn cynnig yr opsiynau ecwiti a rennir fel a ganlyn:  
Rhentu 
Mae rhenti Help2Own Plus yn costio llai na rhenti preifat ond maent ychydig yn ddrutach na rhenti tai cymdeithasol.  
I wneud cais, rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio ac yn ennill rhwng £15,000-£40,000, naill ai'n unigol neu fel incwm ar y cyd. Bydd angen i chi dalu mis o rent ymlaen llaw ac efallai y bydd angen blaendal arnoch. 
Perchentyaeth â Chymorth – Adeiladau Newydd  
Bydd gofyn i chi godi morgais am 70% o werth yr eiddo heb orfod talu unrhyw rhent.
Rhanberchenogaeth – Adeiladau Newydd 
Fe’i gelwir hefyd yn 'prynu/rhentu’n rhannol'. Bydd yr opsiwn hwn fel arfer yn cynnig morgais o 50% a 50% rhent. Gall perchnogion brynu'r gyfran sy'n weddill o'u cartref pan fyddant yn gallu gwneud hynny. 
Perchentyaeth â Chymorth  – Dewis Eich Hun 
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i helpu rhai pobl i brynu eiddo. Bydd angen morgais gwerth 70% arnoch. 
Help2Own Plus – i fod yn gymwys  
Mae'n rhaid i chi fod: 
- Dros 18 oed
- Yn gallu cael morgais (Cynlluniau perchentyaeth) 
- Methu fforddio cyfraddau’r farchnad ar hyn o bryd (Cynlluniau perchentyaeth) 
Bydd angen rhywfaint o gynilion arnoch ar gyfer y costau sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo, e.e. ffioedd cyfreithiwr, symud ac ati, ynghyd â hyd at £1000 i dalu am gostau gweinyddol. 
Gwneud cais i gynllun Help2Own Plus
Os oes angen ffurflen gais arnoch drwy e-bost neu’r post, cysylltwch â ni help2own@torfaen.gov.uk
Pan fydd y cais wedi'i dderbyn, anfonir llythyr atoch yn cynnwys eich rhif cofrestru unigryw.   
Pan fydd eiddo'n dod ar gael, bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (TCC) enwebedig yn cysylltu â chi i roi cyngor ar eiddo sydd ar gael/cyllid, yn dibynnu ar eich dewis a'r lefel fforddiadwyedd.
Cysylltwch â thîm Help2Own ar help2own@torfaen.gov.uk os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol neu eich aelwyd.
 Diwygiwyd Diwethaf: 30/10/2025 
 Nôl i’r Brig