Tai Cymdeithasol
Os ydych yn chwilio am dai cymdeithasol yn Nhorfaen, gallwch gofrestru ar gofrestr Homeseeker. 
Mae'r gwasanaeth yn eich galluogi i wneud cais am eiddo tai cymdeithasol yn Nhorfaen.  
Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i gofrestru a gwneud cais am eiddo ar gael ar wefan Homeseeker .
Nid yw Cyngor Torfaen bellach yn berchen ar unrhyw eiddo. Y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yw:
Mae prinder tai fforddiadwy yn genedlaethol, felly mae'r galw am dai cymdeithasol yn Nhorfaen yn eithriadol o uchel, gydag ymgeiswyr yn aros sawl blwyddyn i gael eu hailgartrefu drwy gynllun Homeseeker. 
Os ydych eisoes yn denant tai cymdeithasol ac yn dymuno symud eiddo, mae HomeSwapper yn wasanaeth cyfnewid ar y cyd i drigolion gyfnewid cartrefi yn lleol ac yn genedlaethol. 
Gallwch hefyd archwilio opsiynau tai eraill gan ddefnyddio safle Dewin Opsiynau Tai.
Rhoi gwybod am broblem gyda Thai Cymdeithasol
 Diwygiwyd Diwethaf: 27/05/2025 
 Nôl i’r Brig