System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai
Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) yn gwerthuso diogelwch adeiladau. Cafodd ei chyflwyno yn lle'r Safon Cymhwyster Tai ac mae'n asesu'r peryglon a allai effeithio ar iechyd, diogelwch a lles y preswylwyr a'u hymwelwyr.
Gall tai o ansawdd gwael effeithio ar bobl yn gorfforol, yn gymdeithasol neu'n emosiynol. Gall problemau fel bod yn rhy oer, achosi mwy o heintiau, asthma a salwch resbiradol eraill. Gall cartrefi hefyd fod yn beryglus, gydag anafiadau yn deillio o gwympiadau, peryglon trydan, tân a damweiniau eraill.
Mae'r effaith ar lesiant yn amrywio o iselder i eithrio cymdeithasol. Mae’r HHSRS yn nodi unrhyw effeithiau iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladau a ddefnyddir ar gyfer amlfeddiannaeth. Rhoddir gradd i adeiladau, a bydd y Cyngor yn cymryd camau ffurfiol os nad yw’r safonau angenrheidiol yn cael eu bodloni.
Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Gallwch lawr lwytho taflen System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai.
I gael gwybodaeth am arall damweiniau yn y cartref ewch i wefan RoSPA.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2024
Nôl i’r Brig