Cynllun Lesio Cymru

Mae Cynllunio Lesio Cymru Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu nifer y cartref fforddiadwy, diogel i denantiaid preifat.

Gall landlordiaid drefnu i osod llety preswyl ar brydles i’w hawdurdod lleol trwy’r cynllun am gyfnod rhwng pump ac 20 mlynedd.

Byddan nhw’n derbyn nifer o fuddion, gan gynnwys rhent wedi ei warantu, grantiau o hyd at £5,000 i ddod ag eiddo at safon a gytunir, a bydd y Cyngor yn wneud atgyweiriadau cyffredinol a gwaith cynnal a chadw. Mae arian grant ychwanegol gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag ar sail telerau ac amodau.

Bydd angen i eiddo gyrraedd safonau penodol i fod yn gymwys am y cynllun a gall ein tîm tai roi mwy o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth, gall landlordiaid gysylltu â’r adran Tai trwy HousingEnabling@torfaen.gov.uk neu 01495 742629.

Bydd rhenti’n cael eu talu yn ôl y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol.  Yn 2024/5, y cyfraddau yn Nhorfaen yw:

Local Housing Allowance Rates
Property SizeLocal Housing Allowance

1 bed

£500.01

2 bed

£564.88

3 bed

£650

4 bed

£749.99

Gall cyfraddau Lwfans Tai lleol newid yn flynyddol.

Yr hyn gallwch ei ddisgwyl gennym ni

  • Byddwn yn canfod tenantiaid posibl
  • Bydd yn ymgymryd y rheolaeth dydd i ddydd eich eiddo
  • Byddwn yn talu rhent yn uniongyrchol at y landlord yn ystod unrhyw gyfnodau y bydd yr eiddo’n wag
  • Byddwn yn archwilio tai’n rheolaidd, yn monitro gweithgaredd tenantiaid, ac yn ymdrin yn brydlon ag unrhyw broblemau, os bydd rhai
  • Byddwn yn cynnal eich eiddo trwy gydol cyfnod y brydles (nid unrhyw waith strwythurol)
  • Byddwn yn cwblhau rhestr eitemau ac, ar ddiwedd cyfnod y brydles – gan ystyried unrhyw draul arferol – bydd yr eiddo’n cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr
  • Byddwch yn derbyn gohebiaeth reolaidd ynglŷn â’ch eiddo
  • Byddwn yn gyfrifol am unrhyw filiau/cyfleustodau os bydd yr eiddo’n wag
Diwygiwyd Diwethaf: 13/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Housing Enabling Officer

Ffôn: 01495 742629

E-bost: HousingEnabling@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig