Gwybodaeth i Landlordiaid
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo.
Dyma’r prif newidiadau i landlordiaid
- Mae yna ddau fath o gontract: contract diogel ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a chontract safonol ar gyfer y sector rhentu preifat..
- Rhaid i landlordiaid sicrhau bod eu heiddo yn addas i fyw ynddynt (FFHH). Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio yn yr eiddo, a chynnal profion diogelwch trydanol..
- Gellir adfeddiannu eiddo segur heb fod angen gorchymyn llys.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Rhentu Doeth Cymru
Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord preifat gofrestru ei hun a’i eiddo. Rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod eiddo ac yn rheoli eiddo gael trwydded hefyd.
Mae’n drosedd i beidio â chofrestru ac mae landlordiaid yn gallu wynebu dirwyon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Torfaen, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i adnabod y rheiny nad ydynt dal i fod yn cydymffurfio â’r ddeddf. Mae cynghorau’n erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio..
Os ydych chi’n denant ac am wybod a yw eich landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld Cofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar lein. Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth ewch i rhentudoeth.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 133344.
I gael mwy o wybodaeth am gyflwr eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat yn Nhorfaen, cysylltwch â Thîm Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd ar public.health@torfaen.gov.uk.
Gwybodaeth i landlordiaid
Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2024
Nôl i’r Brig