Tai Amlfeddiannaeth
Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?
Mae Tŷ Amlfeddiannaeth yn eiddo sy’n cael ei rentu gan o leiaf 3 unigolyn sydd heb fod mewn 1 aelwyd ac sy’n rhannu amwynderau sylfaenol, fel yr ystafell ymolchi a’r gegin.
Bydd eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth, os yw’r canlynol yn wir:
- Mae 3 neu fwy o bobl o fwy nag 1 aelwyd yn ei rentu
- Mae tenantiaid yn rhannu toiled, ystafell ymolchi neu gyfleusterau cegin
Deiliaid contract (tenantiaid) sy’n cael eu gweld fel aelwyd
- Parau sy’n cyd-fyw
- Teuluoedd sy’n berthnasau gwaed neu deuluoedd maeth
- Gofalwyr a staff domestig
Fflatiau
Ni fyddai angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar fflatiau sydd wedi eu hadeiladu at y diben; ond, byddai adeiladau sydd wedi cael eu trawsnewid yn gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol, yn cael eu diffinio fel Tŷ Amlfeddiannaeth petaent yn bodloni’r holl feini prawf canlynol:
- Nid oedd y gwaith trawsnewid yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991
- Mae dros draean o’r fflatiau’n cael eu gosod ar denantiaethau byrdymor/llai na dau draean o’r fflatiau yn eiddo i berchen-feddianwyr
- Mae mwy na 2 unigolyn yn byw yn yr adeilad
I wirio a oes angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar eich eiddo, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Tai a Gwarchod yr Amgylchedd - public.health@torfaen.gov.uk.
Pam mae angen trwydded ar rai Tai Amlfeddiannaeth?
Yn aml, mae safonau ffisegol a safonau rheoli Tai Amlfeddiannaeth mwy o faint, er enghraifft fflatiau un ystafell a thai a rennir, yn is nag eiddo arall sy’n cael ei rentu’n breifat. Gan mai Tai Amlfeddiannaeth yw’r unig opsiwn i lawer o bobl, mae’r Llywodraeth yn cydnabod ei fod yn hanfodol eu bod yn cael eu rheoleiddio’n iawn.
Bwriad trwyddedu yw sicrhau bod:
- Landlordiaid Tai Amlfeddiannaeth yn bersonau cymwys a phriodol, neu’n cyflogi rheolwyr sy’n bersonau cymwys a phriodol
- Pob Tŷ Amlfeddiannaeth yn addas i nifer y bobl a ganiateir i fyw yno o dan y drwydded
- Safon rheolaeth y Tai Amlfeddiannaeth yn ddigonol
- Tai Amlfeddiannaeth risg uchel yn gallu cael eu hadnabod a’u targedu er mwyn eu gwella
Pan fo landlordiaid yn gwrthod bodloni’r meini prawf hyn, gall y cyngor ymyrryd a rheoli’r eiddo er mwyn sicrhau:
- Bod modd amddiffyn tenantiaid sy’n agored i niwed
- Nad oes gormod o bobl yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth
- Bod cynghorau yn gallu adnabod landlordiaid a’u cefnogi, yn enwedig gydag adfywio a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Oes rhaid i bob Tŷ Amlfeddiannaeth gael trwydded?
Na. O dan Ddeddf Tai 2004 mae yna dri math o drwyddedu:
Mandadol (sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith)
Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ar gyfer eiddo sydd:
- Â thri llawr neu fwy
- Â phum unigolyn neu fwy mewn mwy nag un aelwyd
- Yn rhannu amwynderau fel ystafelloedd ymolchi, toiledau a chyfleusterau coginio
Trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Pŵer dewisol y gall cynghorau benderfynu ei ddefnyddio ar gyfer math penodol o Dŷ Amlfeddiannaeth, er enghraifft er mwyn ei gynnwys mewn cynllun cofrestru sy’n bodoli.
Trwyddedu dewisol ar gyfer llety preswyl o fath arall
- Gallai eiddo nad yw’n ddarostyngedig i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ddod o dan gynllun trwyddedu dewisol. Gyda chynllun o’r fath, mae’r cyngor yn gallu datgan bod rhai ardaloedd penodol, er enghraifft, lle mae yna alw isel am dai a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn addas ar gyfer trwyddedu dewisol. Byddai’r trwyddedu hwn yn cynnwys pob math o dai i’w rhentu’n breifat, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth.
Sut y mae trwyddedu’n gweithio?
Rhaid i unrhyw un sy’n berchen ar Dŷ Amlfeddiannaeth y mae’n rhaid ei drwyddedu, neu’n ei reoli, gyflwyno cais i’r cyngor am drwydded. Rhaid i’r cyngor roi trwydded os yw’n fodlon bod yr amodau canlynol yn wir:
- Mae’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn rhesymol addas i’r nifer o bobl a ganiateir o dan y drwydded fyw ynddo
- Mae’r sawl sy’n ymgeisio i fod yn ddeiliad trwydded yn berson cymwys a phriodol
- Y sawl sy’n ymgeisio i fod yn ddeiliad trwydded yw’r person mwyaf addas i ddal y drwydded
- Os oes rheolwr arfaethedig, yna mae’n berson cymwys a phriodol
- Mae’r trefniadau rheoli a gynigir yn foddhaol
- Mae’r sawl sy’n gysylltiedig â rheoli’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn gymwys i wneud hynny
- Mae’r strwythurau ariannol ar gyfer rheoli yn addas
Caniatâd Cynllunio
Os nad oes gan yr eiddo ganiatâd cynllunio i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth, yna mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i geisio am ganiatâd cynllunio os yw unrhyw un o’r pwyntiau canlynol yn wir:
- Os yw defnydd yr eiddo yn newid o un aelwyd i Dŷ Amlfeddiannaeth ac fe fydd rhwng 3 a 6 unigolyn yn byw ynddo (hyd yn oed os ydyw wedi bod yn Dŷ Amlfeddiannaeth yn y gorffennol)
- Os bydd 7 neu fwy o bobl yn byw yn yr eiddo
Mae caniatâd cynllunio yn swyddogaeth ar wahân i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Nid yw cael Caniatâd Cynllunio i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth yn gwarantu y rhoddir trwydded Tai Amlfeddiannaeth ac nid yw rhoi trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn rhoi sicrwydd y bydd Caniatâd Cynllunio yn cael ei roi.
Am ragor o wybodaeth neu gyngor mewn perthynas â’r gofyniad hwn, cysylltwch â Gorfodi Cynllunio - planning@torfaen.gov.uk.
Y broses apelio
Os gwrthodir rhoi trwydded i unrhyw ymgeisydd neu os yw’n dymuno apelio yn erbyn amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, gall apelio gerbron Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru; fodd bynnag, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf.
Dirwyon a chosbau
Gallech gael dirwy o hyd at £20,000 am rentu Tŷ Amlfeddiannaeth allan heb drwydded.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2024
Nôl i’r Brig