Talu am ofal preswyl/gofal nyrsio preswyl
Os nad ydych chi'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, y cam cyntaf yw canfod a oes angen gofal arnoch mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio preswyI.
Os hoffech gael asesiad o'ch anghenion, ffoniwch 01495 762200.
Gofal preswyl
Os penderfynir bod angen i chi symud i gartref gofal preswyl, bydd angen i ni gyfrifo faint y gallwch fforddio ei dalu.
Os gallwch dalu am eich ffïoedd gofal eich hun ac nad oes angen cymorth arnoch i wneud y trefniadau, gallwch fynd ati i drafod y gost yn uniongyrchol â'r cartref o'ch dewis. Fodd bynnag, mae talu am eich gofal preswyl eich hun yn ymrwymiad ariannol sylweddol ac mae'n bosibl y bydd angen cymorth arnoch i dalu ffïoedd yn y dyfodol.
Os oes angen cymorth arnoch i dalu ffïoedd y cartref gofal preswyl, byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad ariannol.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffordd yr ydym yn asesu taliadau ar gyfer gofal preswyl ar gael yn ein taflen Talu am ofal preswyl
Gofal nyrsio preswyl
Os asesir bod angen gofal nyrsio preswyl arnoch, gofynnir i chi dalu am elfen preswyl/llety eich gofal. Cyfrifir y tâl hwn yn seiliedig ar eich incwm.
Ni ofynnir i chi dalu am elfen nyrsio eich gofal - Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fydd yn talu am hyn.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffordd yr ydym yn asesu taliadau ar gyfer yr elfen preswyl/llety o'ch ffïoedd ar gael yn ein taflen Talu am ofal preswyl.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig