Asesiadau - Gwasanaethau i Oedolion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - Gofal Cymdeithasol i Oedolion – yn cefnogi mynediad teg at ofal a chefnogaeth o ansawdd da ar gyfer y bobl sydd angen cymorth fwyaf. Byddwn yn trafod eich sefyllfa unigol gyda chi. Gelwir y drafodaeth yn asesiad. Efallai y byddwch yn gofyn am asesiad oherwydd eich bod yn teimlo bod angen cefnogaeth arnoch chi eich hun neu oherwydd rydych yn gofalu am rywun a all fod angen gofal a/neu gefnogaeth.
Byddwch yn trafpd gydag aelod o staff beth sy'n bwysig i chi, er enghraifft y pethau rydych yn hoffi gwneud, pobl rydych yn hoffi treulio amser gyda a sut y bydd unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa yn effeithio arnoch chi. Gall hyn gynnwys heriau yr ydych yn eu profi sy'n effeithio ar eich annibyniaeth. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr a gallai'r asesiad fod yn ffordd o ganfod atebion syml i'ch sefyllfa.
Gan gymryd eich blaenoriaethau i ystyriaeth, bydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn defnyddio meini prawf cymhwyster ar gyfer eich sefyllfa a gall argymell gofal a / neu gefnogaeth a ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Bydd yr aelod o staff yn trafod hyn gyda chi.
Am fwy o wybodaeth, neu i wneud atgyfeiriad at wasanaethau gofal cymdeithasol, ffoniwch 01495 762200 neu cysylltwch â socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 24/11/2020
Nôl i’r Brig