Gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd

Dyma rai o'r gwasanaethau y mae'n bosibl y gallwn ni neu asiantaethau eraill eu darparu:

  • Gwasanaeth asesu ynghyd â chyngor a chymorth
  • Darparu offer arbenigol i leihau effaith anabledd
  • Gwasanaeth pontio i bobl ifanc sy'n cyrraedd oedolaeth
  • Taliadau Uniongyrchol i blant anabl

Mae Therapydd Galwedigaethol penodol ar gael hefyd i weithio gyda phlant ag anableddau. 

Mae'n bosibl y bydd gan ofalwyr a gofalwyr ifanc hawl i gael asesiad o'u hanghenion hwy eu hunain hefyd dan Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004.

Mae’r Mynegai Anabledd Plant sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn nodi plant ag anableddau yn y gymuned, ac yn eu cefnogi. Yn ogystal, wrth gofrestru, ceir adborth gwerthfawr am anghenion y plentyn, gan helpu i lunio gwasanaethau.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Plant Anabl

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig