Y Mynegai (Cofrestr o Blant Anabl)

Pam cael Mynegai?

Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol gadw Cofrestr o Blant Anabl yn eu hardal. Yn Nhorfaen mae'n well gennym ei alw'n Fynegai. Mae'n ein helpu i gynllunio gwasanaethau a darparu gwybodaeth berthnasol i Rieni, Gofalwyr, Plant a Phobl Ifanc.

Mae'r Mynegai yn wirfoddol - gall plant a'u Rhieni/Gofalwyr ddewis a ydyn nhw am gael eu cynnwys ar y Mynegai.

Pam ddylwn i roi fy mhlentyn ar y Mynegai?

  • Helpu i gynllunio Gwasanaethau i Blant / Pobl Ifanc yn y dyfodol yn fwy effeithiol.
  • Darparu gwybodaeth ystadegol i'r Llywodraeth.
  • Gweithredu fel porth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid ofyn barn blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a beth maen nhw eisiau (trwy ymgynghoriadau gwirfoddol).

I bwy mae’r mynegai?

Plant neu bobl ifanc, o dan 18 oed, sydd ag anabledd sy'n cael effaith amlwg ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys plant ag:

  • Anhwylder ar y sbectrwm awtistig
  • Anawsterau ymddygiadol / cymdeithasol / emosiynol
  • Salwch Cronig, Salwch sy'n Bygwth Bywyd neu Salwch Difrifol
  • Cyflwr meddygol
  • Anabledd corfforol
  • Nam synhwyraidd
  • Anabledd / anhawster dysgu
  • Anableddau lluosog

Plant ag Anabledd sy'n Gymwys i Gael Cymorth

Nid yw’r Mynegai yn:

  • gysylltiedig ag unrhyw Gofrestr arall - nid oes cysylltiad rhwng y Mynegai a'r Gofrestr Amddiffyn Plant;

  • amod ar gyfer derbyn gwasanaethau - nid oes rhaid i chi fod ar y Mynegai  i dderbyn gwasanaethau gennym ni;
  • atgyfeiriad i Wasanaethau Cymdeithasol; nac
  • ar gael i unrhyw un sy’n holi - mae manylion ar y mynegai yn gwbl gyfrinachol ac ni rennir y wybodaeth gydag unrhyw asiantaethau eraill heblaw y rhoddir caniatâd.

Gallwch ychwanegu manylion eich plentyn i’r Mynegai yma.

Ein manylion cyswllt

Os oes angen mwy o help, cysylltwch â ni

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Ein Cyfeiriad:

Tîm Plant ag Anabledd
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Canolfan Ddinesig Torfaen
Pontypool
Torfaen
NP4 6YB

Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Plant ag Anabledd

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig