Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n ofyniad statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad blynyddol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau Gofal Cymdeithasol, a gwerthuso ei berfformiad yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o'n sefyllfa bresennol, datblygiadau a dyheadau yn y dyfodol a rhai o'r heriau allweddol y mae angen ffocysu arnynt yn barhaus. Mae'r adroddiadau hyn yn sôn am bobl; pobl rydyn ni'n eu cefnogi, pobl sy'n gweithio i ni a'r bobl rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â nhw.
Mae Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar gyfer 2022 - 2023 yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o berfformiad a datblygiadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Dyma'r pwyntiau allweddol:
Y Sefyllfa Bresennol
- Gwasanaethau Ymatebol: Mae gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Nhorfaen wedi bod yn ymatebol, yn ddychmygus ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon er gwaethaf yr heriau. Mae'r gwasanaethau wedi addasu'n gyflym ac yn effeithlon i fodloni'r gofynion a osodwyd arnynt.
- Gostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal: Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal gan y Cyngor wedi gostwng yn gyson ers iddo gyrraedd uchafbwynt o 474 ym mis Medi 2020, i 378 ar 31 Mawrth 2023.
- Ymgysylltu Cymunedol a Chyd-gynhyrchu: Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a chyd-gynhyrchu wrth gyflawni newid y gellir ei gynnal.
Datblygiadau a Dyheadau ar gyfer y Dyfodol
- Cefnogaeth yn y Gymuned: Parhau i ganolbwyntio ar gefnogaeth yn y gymuned, gwasanaethau ail-alluogi, ac atebion arloesol i ddiwallu anghenion dinasyddion.
- Hwb Cymunedol Tŷ Glas y Dorlan: Bydd datblygiad Canolfan Gymunedol Tŷ Glas Y Dorlan yn dechrau ar gam dau yn 2023/24, gan ganolbwyntio ar ailalluogi cymunedol.
- Rheoli Perfformiad: Dull haenog a gwell o reoli perfformiad o fewn meysydd gwasanaeth i lywio effeithiolrwydd a ffurf gwasanaethau.
- Ailalunio’r Gyfarwyddiaeth: Aeth y Cyngor ati i adolygu ac ailalunio’i gyfarwyddiaethau ym mis Mawrth 2023, a arweiniodd at Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chymunedau a Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Heriau Allweddol
- Recriwtio a Chadw: Mae'r gallu i recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gyflwyno heriau a phwysau.
- Argyfwng costau byw: Mae’r argyfwng costau byw cynyddol a dirywiad economaidd dilynol wedi effeithio ar bob rhan o’r gymuned a gwasanaethau cyhoeddus.
- Prinder yn y Gweithlu: Mae prinder yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi parhau i fod yn heriol.
- Y galw ar wasanaethau: Mae maint y galw ar atgyfeiriadau a chysylltiadau yn parhau i godi, gan roi pwysau ar ddarparu gwasanaethau.
Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio, gwytnwch cymunedol ac arloesi wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol effeithiol yn Nhorfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/10/2024
Nôl i’r Brig