Gwybodaeth i'r Cyhoedd
Rydym yn ymrwymo i roi gwybodaeth glir am wasanaethau gofal cymdeithasol i’r holl bobl yn Nhorfaen a allai fod angen cymorth nawr neu yn y dyfodol.
Ein nod hefyd yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gyfrifol am drefnu gwasanaethau i bobl agored i niwed yn y fwrdeistref.
Mae ein taflenni gwybodaeth yn dweud wrth bobl am y gwasanaethau a gynigiwn. Hefyd, rydym yn cyflwyno ein polisi codi tâl a’r meini prawf a ddefnyddiwn i bennu a yw pobl yn gymwys i’w hystyried ar gyfer gwasanaethau, a sicrhau mai’r bobl â’r anghenion mwyaf gaiff y flaenoriaeth uchaf.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld ein taflenni cyfredol
Mae'r holl gyhoeddiadau ar gael os gwneir cais amdanynt, a hynny yn rhad ac am ddim. Os hoffech archebu unrhyw rai o'r taflenni, anfonwch e-bost at SCHBusinesssupporthub@torfaen.gov.uk
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat hygyrch e.e. print bras, Braille, iaith heblaw am Saesneg neu ar dâp sain, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid Torfaen ar 01495 762200.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022
Nôl i’r Brig