Rhywun i siarad ar eich rhan
Beth yw eiriolaeth?
Mae eiriolaeth yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim sydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau a chael mwy o lais, dewis a rheolaeth pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith arnoch chi.
Sut gall eiriolwr helpu?
Mae eiriolwr yn rhywun fydd:
- yno yn arbennig i chi ac yn eich cefnogi
- yn eich helpu i ddarganfod a deall gwybodaeth
- yn eich helpu i ystyried eich opsiynau a gwneud penderfyniadau eich hun
- yn sicrhau bod gwrandawiad ac ystyriaeth i'ch barn, dymuniadau a theimladau
- yn siarad ar eich rhan pan fydd angen hynny
A yw'r llinell gymorth eiriolaeth yn addas i mi?
Ydy os ydych chi:
- yn 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am eich anghenion gofal a chefnogaeth
- yn ofalwr 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am anghenion gofal a chefnogaeth chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt
- yn berthynas, ffrind neu'n weithiwr proffesiynol sydd yn credu byddai rhywun yn buddio o dderbyn eiriolaeth
Beth sydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â'r llinell gymorth eiriolaeth?
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyda chyfeiriadau at wasanaethau eiriolaeth i oedolion. Gan ein bod yn annibynnol o awdurdodau lleol, y GIG a darparwyr eiriolaeth, gallem sicrhau eich bod yn derbyn y fath o eiriolaeth sydd yn gywir i chi.
Byddem yn:
- gofyn am ychydig o wybodaeth sylfaenol, gan gynnwys manylion cyswllt (yn unol â rheolau amddiffyn data)
- gofyn i chi ddisgrifio'ch sefyllfa yn gryno
- eich hysbysu am y gwahanol fathau o eiriolaeth
- trafod y math o eiriolaeth sydd fwyaf addas i chi
- darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd yn agored i chi a sut i gysylltu
Mae’r llinell gymorth rhad ac am ddim ar gael rhwng 10am-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0808 801 0566.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan: www.gata.cymru
Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021
Nôl i’r Brig