Canolfan Adnoddau i Deuluoedd
Mae Canolfan Adnoddau i Deuluoedd Torfaen yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall ac ateb anghenion eu plant mewn amgylchedd diogel, cefnogol a gofalgar.
Yn y Ganolfan Deuluoedd, ein nod yw cynnig gwasanaeth cadarnhaol a chefnogol i blant a theuluoedd fel bod pawb sy'n defnyddio'r Ganolfan yn cael profiad pleserus. Ein nod bob amser yw gweithio mewn ffordd hwylus a chreadigol.
Cyswllt dan oruchwyliaeth – fel rheol, bydd gweithiwr cymdeithasol yn gofyn am hyn pan fydd gorchymyn llys o ryw fath yn cael ei gyflwyno. Yna, bydd staff y Ganolfan yn trefnu'r cyswllt a bydd cynorthwywyr cymorth teuluol yno i'ch cefnogi chi ac arsylwi'ch amser gyda'ch teulu. Bydd cofnod yn cael ei wneud o'r arsylwadau hyn a'i roi i weithiwr cymdeithasol y plentyn neu'r plant.
Cymorth i deuluoedd – caiff amrywiaeth fawr o wasanaethau cymorth yn y gymuned ei chynnig, gan gynnwys:
- Meithrin hunan-barch a hyder
- Grwpiau ieuenctid
- Gwaith ‘cadw'n ddiogel' i helpu plant i gadw'u hunain yn ddiogel rhag cam-driniaeth a/neu fwlio
- Gwaith hanes bywyd
- Gwaith uniongyrchol unigol gyda phlant, sy'n ystyried eu hanghenion emosiynol penodol
- Cyrsiau magu plant – bydd angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol am y rhain
- Hybu gweithgareddau teuluol yn y gymuned
Oriau agor
Rydym ar agor fel a ganlyn:
- 09:00 - 17:30 - Dydd Llun
- 09:00 - 19:30 - Dydd Mawrth
- 09:00 - 17:30 - Dydd Mercher
- 09:00 - 17:30 - Dydd Iau
- 09:00 - 17:00 - Dydd Gwener
- 09:00 - 12:00 - Dydd Sadwrn
Y Ganolfan Adnoddau i Deuluoedd
Stryd Wesley
Cwmbrân
NP44 3LX
Diwygiwyd Diwethaf: 04/01/2021
Nôl i’r Brig