Cartrefi Nyrsio
Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt yn gallu byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain mwyach, hyd yn oed gyda chymorth.
Mae cartrefi nyrsio yn darparu gofal nyrsio 24-awr gan nyrsys cymwysedig a gofalwyr eraill yn ychwanegol at ofal personol. Mae'n rhaid i'r unigolyn sydd â gofal y cartref fod yn nyrs neu'n feddyg cymwysedig, a bydd staff nyrsio cymwysedig ar ddyletswydd bob amser.
Caiff rhai cartrefi eu rhedeg gan sefydliadau gwirfoddol neu elusennau, ond caiff y rhan fwyaf eu rhedeg yn breifat gan unigolion.
Os yw'r gwasanaethau cymdeithasol yn cynnal asesiad sy'n dangos bod angen gofal nyrsio arnoch, bydd eich rheolwr gofal yn eich helpu i ddod o hyd i gartref nyrsio sy'n bodloni eich anghenion.
Mae'n bwysig peidio â drysu rhwng cartrefi nyrsio a chartrefi preswyl. Mae cartrefi preswyl yn darparu prydau llawn a gofal personol, ond nid gofal nyrsio.
Caiff cartrefi nyrsio eu cofrestru i ddarparu gofal ar gyfer pobl o oedran penodol sydd ag anghenion penodol. Mae amrywiaeth o gartrefi nyrsio yn darparu gwasanaeth ar gyfer pobl o bob oedran sydd â phob math o anghenion gofal nyrsio.
Mae'r holl gartrefi nyrsio yn Nhorfaen wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac maent yn cael eu harolygu ganddi hefyd.
Gellir cael rhestr o gartrefi preswyl a chartrefi nyrsio cofrestredig gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Cofiwch, fe allai fod rhestr aros ar gyfer lleoedd mewn rhai cartrefi nyrsio. Os oes rhaid i chi symud ar frys, neu os ydych yn glaf mewn ysbyty, mae'n bosibl y bydd angen i chi ystyried dewisiadau eraill fel symud i gartref arall dros dro.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/10/2024
Nôl i’r Brig