Gofalwyr ifanc
Pwy rydyn ni'n eu cefnogi?
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi gofalwyr di-dâl dan 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gofalwyr ifanc yn ‘blant a phobl ifanc sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu’r rheiny y mae camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt’.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Mae gan gynghorau gyfrifoldeb am les gofalwyr ifanc a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Yn Nhorfaen, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae ac rydym yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd hamdden i alluogi gofalwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chysylltiadau cymdeithasol sy'n briodol i'w hoedran..
Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi dros 140 o ofalwyr ifanc. Aseswyd anghenion y gofalwyr ifanc hyn ac mae cefnogaeth yn cael ei darparu. Gall y gefnogaeth gynnwys;
- Cefnogaeth un i un
- Grwpiau cymdeithasol
- Hyfforddiant
- Gweithgareddau Preswyl a theithiau
- Rhywun i siarad ag ef, er mwyn lleihau pryder, straen ac unigedd
- Seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill
Gyda phwy arall y mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r:
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Adran Chwarae Torfaen
- Adran Datblygu Chwaraeon
- Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl
- Sefydliadau trydydd sector eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Honeypot, i gael canlyniadau gwell i'n gofalwyr ifanc.
Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc (Cynllun Cerdyn)
Cerdyn adnabod â llun yw'r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i Ofalwyr Ifanc sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac wedi gofyn am gerdyn. Lansiwyd y cynllun yn Nhorfaen ar 15 Mawrth 2021.
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn cadarnhau bod y person a ddangosir ar y cerdyn yn Ofalwr Ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Nid oes angen i Ofalwyr Ifanc fod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc cyn cael Cerdyn Adnabod.
Mae Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn rhad ac am ddim ac mae'n parhau am 2 flynedd.
Mae'r cynllun cardiau adnabod cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'i ddatblygu fel partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'r holl awdurdodau lleol ledled Cymru, gan weithio i brofi a datblygu dull ledled y wlad i wella'r profiadau y mae gofalwyr ifanc yn eu cael yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol a lleoliadau addysg.
Bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn darparu dull adnabod ar ffurf llun unrhyw ofalwr ifanc o dan 18 oed a hoffai gael un. Bydd hyn yn eu galluogi i ddangos i weithwyr proffesiynol pwy ydyn nhw heb orfod rhannu manylion personol am eu rôl ofalu. Bydd y cerdyn adnabod yn Nhorfaen yn cynnwys buddion gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen fel nofio am ddim a mynediad i gamfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd.
Diwygiwyd Diwethaf: 26/10/2021
Nôl i’r Brig