Gwasanaethau i Ofalwyr
Cymorth i ofalwyr Torfaen
Gwasanaeth i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr nad ydynt yn derbyn tâl yn Nhorfaen.
Gall ein Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr gynnig amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ymarferol fel cyflwyno gofalwyr i wasanaethau lleol neu fynd i'r afael â materion hirsefydlog fel archwilio i newidiadau bach yn y tŷ i wneud y gofalu yn haws, darparu gwybodaeth, cyfeirio, a helpu i greu rhwydweithiau cymorth.
Mae'r holl gymorth a ddarperir bob amser wedi'i deilwra o amgylch yr unigolyn i sicrhau bod anghenion y cleient yn cael eu diwallu.
Ebost carersupport@torfaen.gov.uk
Cynllun Cerdyn Brys i Ofalwyr
Os ydych yn ofalwr yn Nhorfaen, rydych yn gymwys i ddefnyddio'r cerdyn brys i ofalwyr. Mae'r cerdyn yn gweithio trwy alluogi pobl i weld eich bod yn ofalwr mewn argyfwng, yn debyg i'r modd y mae cerdyn rhoddwr yn gweithio.
Cerdyn Llyfrgell i Ofalwyr
Gyda Cherdyn Gofalwr gallwch fenthyca cyfanswm o 50 o eitemau i chi ac i’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdanynt. Ymhlith y manteision does dim taliadau am ddychwelyd yn hwyr ac mae’r cyfnod cyntaf o 3 wythnos ar gyfer llyfrau llafar am ddim. Am yr wythnosau sy’n dilyn bydd y tâl ar gyfer llyfrau llafar yr un peth â’r arfer.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Llyfrgell Cwmbrân ar 01633 647676 neu e-bostiwch cwmbran.library@torfaen.gov.uk
Llyfrgell Pont-y-pŵl ar 01495 766160 neu e-bostiwch pontypool.ilbrary@torfaen.gov.uk
Llyfrgell Blaenafon ar 01495 742802 neu e-bostiwch blaenavon.library@torfaen.gov.uk.
Cymorth i ofalwyr newydd
Os ydych chi’n ofalwr ac angen gwybodaeth a chymorth, cysylltwch â Hwb Gofalwyr Torfaen ar 01495 753838.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Nôl i’r Brig