A allech chi gael gyrfa mewn gofal?
Mae angen mwy o weithwyr gofal yng Nghymru.
Os oes gennych agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, efallai y gallwch hyfforddi a chael cymwysterau wrth i chi weithio, gydag oriau hyblyg, fel y gallwch ofalu am bobl ar adegau sy'n addas i chi a'ch teulu.
I'r bobl iawn, mae gofalu yn yrfa werth chweil.
Ewch i Gofalwn Cymru i gael gwybod mwy a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael am swyddi yn eich ardal leol.
Diwygiwyd Diwethaf: 19/08/2021
Nôl i’r Brig