Grantiau Gofalwyr

Cronfa Cymorth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig grantiau un-tro i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn Nhorfaen i helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oedran, sy'n gofalu ac yn cynorthwyo perthynas, ffrind neu gymydog sy'n anabl, yn gorfforol neu'n feddyliol sâl, neu y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt, a hynny heb dâl.

Categorïau y gellir gwneud cais amdanynt:

  • Grant bwyd
  • Taliad cyfleustodau
  • Offer bach ar gyfer y cartref, sy’n arbed ynni (microdon, ffwrn ffrio neu beiriant coginio araf deg)
  • Blanced sy’n cynhesu
  • Dillad
  • Cerdyn i deithio ar fws neu drên
  • Cerdyn Greggs

Gwneud cais

Bydd y grant ar agor yn ystod Gorffennaf, Medi, Tachwedd a Ionawr.  Pan fydd y grant ar agor, bydd yn cael ei hysbysebu ar ein tudalen Facebook Gofalwyr sy’n Oedolion.

Er mwyn osgoi gordanysgrifio, rydyn ni wedi dyrannu swm penodol ar gyfer pob mis.  Pan fyddwn yn cyrraedd ein swm, bydd y cynllun grant yn cau tan y mis nesaf.

SYLWER: Os ydych wedi derbyn grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ers mis Medi 2023, ni fydd gennych hawl i ailymgeisio.

Gwneud cais am grant Cronfa Cymorth i Ofalwyr De-ddwyrain Cymru

Mae copïau papur ar gael ar gais.  E-bostiwch carersupport@torfaen.gov.uk os oes angen copi papur arnoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/10/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig