Lwfans Gofalwyr
Mae gan rai gofalwyr hawl i gael Lwfans Gofalwyr a gallant fod â hawl i gael budd-daliadau eraill gan y llywodraeth hefyd.
Lwfans Gofalwyr yw'r prif fudd-dal i ofalwyr. O fis Ebrill 2021 ymlaen, y gyfradd wythnosol yw £67.60. I gael Lwfans Gofalwyr, rhaid i chi fodloni pob un o'r amodau canlynol:
- Rydych chi'n gofalu am rywun sy'n cael budd-dal anabledd cymwys.
- Rydych chi'n gofalu am yr unigolyn hwnnw am o leiaf 35 awr yr wythnos.
- Rydych chi'n 16 oed neu'n hŷn.
- Nid ydych mewn addysg amser llawn.
- Rydych chi'n ennill £100 neu lai yr wythnos (ar ôl didyniadau).
- Rydych chi'n bodloni amodau presenoldeb a phreswylio'r DU.
Nid yw Lwfans Gofalwyr yn dibynnu ar brawf modd – mewn geiriau eraill, nid yw'n seiliedig ar eich incwm na'ch cynilion, ond gall enillion effeithio ar eich hawl. Nid yw'n seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae Lwfans Gofalwyr yn drethadwy ond, oherwydd ei fod yn swm isel, mae islaw'r trothwy ar gyfer talu treth ar ei ben ei hun. Felly, dim ond os oes gennych ffynonellau eraill o incwm trethadwy, fel pensiwn galwedigaethol neu gynilion, y bydd rhaid i chi dalu treth. (Ffynhonnell: Cynhalwyr y DU)
Mae Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau Torfaen yn helpu defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a'u gofalwyr i hawlio'r budd-daliadau llawn y mae ganddynt hawl i'w cael, gan sicrhau eu bod yn cael yr incwm wythnosol uchaf posibl.
Bydd yr ymgynghorydd budd-daliadau yn ymweld â chi gartref neu mewn lleoliad o'ch dewis, ac yn cwblhau asesiad cynhwysfawr a chyfrinachol o'ch hawl i gael budd-daliadau.
Bydd yr ymgynghorydd yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni cais ac yn eu dilyn i fyny er mwyn sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau cywir a'r swm cywir.
Hefyd, bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau yn cynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth i herio penderfyniadau y credir eu bod yn anghywir trwy'r camau adolygu ac apelio.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/11/2022
Nôl i’r Brig