Pan ddaw'r gofalu i ben
Nid oes neb am feddwl am yr amser y daw eu rôl fel gofalwr i ben.
Fe allai eich rôl fel gofalwr ddod i ben am amrywiol resymau a byddwch yn siŵr o fynd trwy ystod eang o wahanol emosiynau.
Os oes angen gwybodaeth a chefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â Hwb Gofalwyr Torfaen ar 01495 753838.
Mae elusen Cruse hefyd yn cynnig gwasanaeth cwnsela am ddim ar gyfer profedigaeth.
Cysylltwch â Gofal Galar Cruse ar 0844 477 9400 neu 01633 251982.
Beth i'w wneud pan fydd gofalwr yn marw
Pan fydd gofalwr yn marw, efallai bydd angen cymorth ychwanegol gan y gwasanaethau cymdeithasol ar yr unigolyn yr oeddent yn gofalu amdano. Weithiau, efallai na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am yr unigolyn, felly bydd angen iddi gael ei atgyfeirio.
Os yw'r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am yr unigolyn, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200 a rhoi gwybod i rywun bod y gofalwr wedi marw.
Bydd ymgynghorydd yn trosglwyddo’r wybodaeth i weithiwr cymdeithasol neu dîm gwaith cymdeithasol yr unigolyn dan sylw. Fel arall, os ydych yn gwybod enw a rhif ffôn y gweithiwr cymdeithasol, fe allech roi galwad iddo/iddi eich hun.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trefnu i adolygu'r pecyn gofal y mae'r unigolyn yn ei dderbyn.
Os nad yw'r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am yr unigolyn sy'n derbyn gofal, ac os yw'r unigolyn angen cymorth a chefnogaeth, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid i ddweud wrthym amdanynt - rydym yn galw hyn yn atgyfeiriad.
Pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud, byddwn yn trefnu i asesu anghenion yr unigolyn i weld a ydynt yn gymwys i dderbyn gwasanaethau penodol.
Rydym yn codi tâl am ofal personol a gwasanaethau gofal dydd, fodd bynnag, mae'r tâl a godir yn seiliedig ar allu'r unigolyn i dalu. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r tâl a godir, darllenwch ein taflen Talu am Wasanaethau Gofal yn y Gymuned.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Nôl i’r Brig