Pam dal ati?
Mae mathau o swyddi a gyrfaoedd yn newid. Mae'n annhebygol y byddwch yn yr un yrfa neu weithle am weddill eich bywyd. Byddwch yn gweld angen newid swydd sawl tro yn ystod eich bywyd gwaith. Efallai y byddwch yn penderfynu dechrau gyrfa hollol wahanol. Pa beth bynnag sy'n digwydd, bydd angen i chi fod mewn sefyllfa dda i ymdopi'n llwyddiannus â newid parhaus.
Ledled Prydain, mae:
- ychydig iawn o swyddi nad ydynt yn cynnwys technoleg gwybodaeth
- ychydig iawn o swyddi ar gael i bobl heb gymwysterau
- galw cynyddol am bobl sy'n gallu delio'n effeithiol â'r cyhoedd
- angen am bobl sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm, datrys problemau, cymryd cyfrifoldeb a dangos blaengarwch
- mwy o bobl yn sefydlu eu busnesau eu hunain
- pobl yn gweithio ar batrymau hyblyg, fel rhan-amser neu ar gontractau dros dro.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig