Mynd i Goleg Gwent - Campws Pont-y-pŵl
Mae Campws Pont-y-pŵl yn cynnig ystod gyffrous o ddewis i'w fyfyrwyr mewn amgylchedd cefnogol, i oedolion. Beth bynnag y byddwch chi'n dewis ei astudio, byddwn yn eich helpu i drosglwyddo o'r ysgol, eich cefnogi wrth i chi astudio a'ch paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eich bywyd.
Bydd nifer o’r cyrsiau yn cynnig ymweliadau addysgol a lleoliadau gwaith lle y gallwch roi eich sgiliau newydd ar waith. Ond nid gwaith yw popeth. Bydd bywyd ar y campws yn cynnig dewis o bethau difyr i’w gwneud, gyda’r myfyrwyr eu hunain yn trefnu llawer ohonynt drwy’r Undeb Myfyrwyr.
Mae Campws Pont-y-pŵl yn cynnig dewis o:
- Safonau Uwch/UG
- Rhaglenni GNVQ/AVCE
- Diplomâu BTEC Cyntaf a Chenedlaethol
- Cymwysterau NVQ ar amrywiaeth o lefelau
Gallwch hefyd gyfuno cymwysterau eraill fel CLAIT a Gwobr Dug Caeredin.
Bydd gennych diwtor personol sy'n cwrdd â'ch grŵp i roi arweiniad, cefnogaeth, sgiliau astudio a gofal bugeiliol. Mae'r tiwtoriaid hefyd yn cynorthwyo ymgeiswyr sydd am ddilyn addysg uwch, dechrau gweithio neu derbyn hyfforddiant pellach. Mae yna ymgynghorydd Gyrfa Cymru ar y campws yn ogystal ag ymgynghorydd addysg uwch. Mae tîm Gwasanaethau Myfyrwyr y campws yn gallu darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o faterion ariannol, teithio, iechyd a lles.
Mae Canllaw'r Coleg yn darparu gwybodaeth am yr holl gyrsiau sydd ar gael yn y chwe champws yng Ngholeg Gwent, sef Y Fenni, Crosskeys, Glynebwy, Casnewydd, Pont-y-pŵl a Brynbuga. Mae pob campws hefyd yn cynhyrchu canllaw sy'n amlinellu ei gyrsiau. Mae manylion y Diwrnodau Agored a gynhelir yn ystod tymor y gwanwyn a'r haf ar gael yn y canllawiau neu o'r campws ei hun.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coleg Gwent.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig