Beth yw ystyr y llythrennau hyn?
Mae newidiadau o fis Medi 2000 ymlaen wedi ehangu ystod y pynciau y bydd myfyrwyr yn eu dilyn. Cyflwynwyd mwy o hyblygrwydd hefyd ac, yn dibynnu ar ble'r ydych yn astudio, bydd yn bosibl i chi gyfuno gwahanol fathau o gymwysterau.
Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) Safon Uwch
Mae Safon Uwch ar gael mewn ystod eang o bynciau mewn ysgolion a cholegau. Erbyn hyn, mae strwythur y cyrsiau hyn wedi newid. Cyflwynwyd Safon Uwch Gyfrannol (UG) newydd. I fyfyrwyr ym Mlwyddyn 12, bydd yn bosibl astudio pedwar neu bum pwnc. Yn yr ail flwyddyn, mae'n debyg y byddwch yn astudio tri phwnc yn fanylach. Yr enw ar y rhan hon o'r cwrs yw U2.
Mae 3 uned ym mhob blwyddyn o gymhwyster Safon Uwch felly (3 uned UG + 3 uned U2) = Safon Uwch = 6 uned.
Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU)
Mae'r cymhwyster hwn ar gael mewn ystod eang o feysydd pwnc galwedigaethol. Os byddwch yn gallu cyfuno'r arddulliau dysgu gwahanol hyn ac yn llwyddiannus ynddynt, byddwch mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i addysg uwch neu'r byd gwaith.
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (Canolradd)
Cyrsiau cyffredinol sy'n gysylltiedig â gwaith yw'r rhain. Gallant fod yn gam cyntaf i TAAU. Fel arfer, maent wedi'u seilio ar nifer o fodiwlau ac maent yn cymryd blwyddyn i'w cwblhau.
Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)
Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â'ch cymhwyster hwn. Efallai y gwnaethoch astudio'r rhain ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Os nad ydych yn fodlon â'r graddau rydych wedi'u hennill eisoes, bydd nifer gyfyngedig o bynciau ar gael i chi eu hailsefyll. Mae'n werth trafod unrhyw gynlluniau sydd gennych i ailsefyll arholiadau gydag ymgynghorydd, gan efallai y bydd yn gallu awgrymu opsiynau eraill ar gyfer gwella eich cymhwyster.
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ)
Mae'r cymwysterau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â swydd. Maent yn ymarferol ac yn dangos eich bod yn gallu cyflawni tasg i'r safon ofynnol. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar eu cyflawni ac mae modd i chi eu cwblhau un ar y tro.
BTEC
Cymhwyster galwedigaethol uchel ei barch sy'n cael ei gynnig gan Edexcel.
Diploma Cenedlaethol BTEC
Cwrs dwy flynedd yw hwn sy'n arwain at gymhwyster sydd o'r un safon â TAAU neu NVQ Lefel 3. Mae'r cyrsiau'n rhai galwedigaethol ac yn ymwneud â gwaith ac maent yn addas ar gyfer symud ymlaen i'r byd gwaith neu addysg uwch.
Sgiliau Allweddol
Mae'r Sgiliau Allweddol fel a ganlyn:
- Cymhwyso rhif
- Cyfathrebu
- Technoleg gwybodaeth
Mae cymhwyser ar gael mewn sgiliau allweddol. Byddwch yn gallu sefyll prawf cenedlaethol a bydd disgwyl i chi ddarparu ffeil dystiolaeth i ategu eich gradd. Er mwyn ennill y dystysgrif, rhaid i chi edrych ar bob un o'r sgiliau, ond nid oes rhaid iddynt fod ar yr un lefel. Caiff y dystysgrif ei dyfarnu o lefel 1 i lefel 4.
Mae unedau pellach mewn Sgiliau Allweddol ar gael mewn:
- Gwella eich dysgu a'ch perfformiad eich hun
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
Nod y sgiliau allweddol hyn yw eich helpu gyda'ch bywyd, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Maent wedi'u croesawu gan sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr fel galluoedd manteisiol y dylai pob unigolyn ifanc geisio eu hennill.
Diploma Cyntaf BTEC
Mae'r cwrs hwn, sy'n para blwyddyn, yn gyfwerth ag NVQ Lefel 2 ac mae'n cymharu â'r amser y mae'n ei gymryd i astudio hyd at lefel dda mewn TGAU. Mae'r cwrs yn eich galluogi i ganolbwyntio ar gymhwyster sy'n gysylltiedig â gwaith a bydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith neu symud ymlaen i gymwysterau eraill. Tra'r rydych yn dilyn y cwrs hwn, byddwch yn cael aseiniadau lle gallwch arddangos eich cyflawniadau. Mae sawl lefel o lwyddiant ar y cwrs hwn - pasio, teilyngdod neu ragoriaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig