Dewis yn 16+
Mae gwneud y dewis cywir nawr yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus yn y gweithlu cyfoes, bydd angen i chi barhau â'ch addysg a hyfforddiant, gan ennill gwybodaeth, profiad a chymwysterau wrth i chi symud ymlaen. Mae Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gallu darparu ystod eang y ffyrdd y gallwch chi barhau i astudio neu hyfforddi.
Mae'r rhain fel a ganlyn:
- Pum ysgol ag adrannau chweched dosbarth
- Campws Pont-y-pŵl Coleg Gwent
- Ysgol Arbennig Crownbridge
- Prentisiaethau modern, hyfforddeiaethau cenedlaethol a chynlluniau hyfforddi sgiliau sy'n cael eu cynnig ar y cyd â chyflogwyr lleol, yn gyffredinol
Erbyn hyn, ceir amrywiol lwybrau i chi ennill cymwysterau. Cymerwch eich amser i ddysgu am y cwrs a'r cymhwyster sy'n gweddu orau i'ch anghenion a'ch galluoedd chi. Erbyn hyn, mae dysgu'n rhywbeth gydol oes ac mae pob cymhwyster yn gam pwysig ar y ffordd.
Efallai y byddwch chi neu'ch teulu yn poeni y gallai aros yn yr ysgol neu fynd i goleg addysg bellach achosi problemau ariannol. Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ar gael i roi cymorth ariannol i ddisgyblion sy'n aros yn yr ysgol ac mae rhagor o gyngor ac arweiniad ar y mater hwn ar gael gan eich ymgynghorydd gyrfaoedd neu gan linell gymorth y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (0845 6013636). Er enghraifft, bydd yn bosibl i'ch rhieni barhau i hawlio Budd-dal Plant nes y byddwch chi'n 19 oed, cyn belled â'ch bod yn aros mewn addysg amser llawn.
Gyrfa Cymru Gwent yw'r gwasanaeth gyrfaoedd ar gyfer yr ardal hon. Mae ymgynghorydd gyrfaoedd ynghlwm wrth bob ysgol. Bydd ef neu hi yn gallu cynnig cyngor personol i dywys eich penderfyniadau.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig