Aros yn yr Ysgol
Mae pum ysgol uwchradd 11-18 oed yn Nhorfaen, gan gynnwys yr ysgol Gymraeg, Ysgol Gyfun Gwynllyw, a'r Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, Ysgol Gatholig Sain Alban. Mae'r ysgolion hyn yn cynnig ystod o gyrsiau safon uwch, safon UG, sgiliau allweddol a chyrsiau galwedigaethol GNVQ. Mae cyrsiau eraill ar gael hefyd, fel TGAU, a fydd yn eich helpu i gynyddu eich ystod cymwysterau.
Yn yr ysgol, byddwch yn gallu manteisio ar gyngor o ansawdd da, bydd eich athrawon yn rhoi arweiniad i chi ac yn eich cynorthwyo i reoli eich astudiaethau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallant esbonio sut i wneud cais am addysg uwch, addysg bellach neu waith a hyfforddiant. Bydd athrawon a thiwtoriaid yn gallu eich helpu pob dydd.
Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd ynghlwm wrth ysgolion hefyd. Gallant roi cyngor arbenigol i chi a byddant yn llunio cynllun gweithredu unigol i chi ei gadw yn eich Cofnod Cyrhaeddiad Cenedlaethol.
Bydd ysgolion hefyd yn cynnig ystod o weithgareddau a fydd yn helpu gyda'ch datblygiad personol a chymdeithasol. Gallai hyn gynnwys pethau fel:
- Dramâu a chynhyrchiadau
- Gwaith elusennol a gwirfoddol
- Helpu'r gymuned
- Gweithgareddau chwaraeon
- Clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol
- Helpu a chefnogi myfyrwyr iau
- Gwobr Dug Caeredin
- Cynlluniau Menter yr Ifanc
- Digwyddiadau trafod a dinasyddiaeth
Bydd gan bob ysgol brosbectws sy'n cynnig rhagor o fanylion am ei gwasanaethau. Fel arfer, bydd Nosweithiau Agored yn cael eu cynnal yn ystod tymor y gwanwyn, a bydd y dyddiadau ar gael gan yr ysgol. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â'ch athrawon pwnc, trafod eich anghenion ac ymweld â'r ysgol.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig