Cyfleoedd Hyfforddi a Dysgu
Mae llawer o lwybrau gwahanol i ddechrau gyrfa, a hyfforddi yw un ohonynt yn unig. Mae pob unigolyn ifanc 16 ac 18 oed yn gymwys i ddechrau hyfforddi cyn gynted ag iddynt adael yr ysgol ym Mlwyddyn 11.
Enw'r rhaglen dysgu yn y gwaith gyfredol yng Nghymru yw Ceiswyr Sgiliau ar mae ar gael ar dair lefel. Mae pob lefel wedi'i seilio ar fframwaith cymwysterau cenedlaethol o'r enw Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs), ac maent yn cymharu â Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQs), TGAU, TAAU a chymwysterau Safon Uwch. Mae rhaglenni Ceiswyr Sgiliau yn cael eu hariannu gan ELWa, sef Cyngor Dysgu ac Addysgu Cymru. Tra rydych yn cwblhau'r rhaglenni hyfforddi hyn, bydd gennych hawl i gael cyflog neu lwfans.
Prentisiaethau Modern [Lefel 3]
Mae'r rhain ar gael mewn ystod eang o yrfaoedd a byddant yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyfathrebu, rhif, technoleg gwybodaeth a sgiliau eraill y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa. Er mwyn cael eich derbyn, bydd angen i chi gael cyfweliad a phrawf gallu ac fel arfer, ond nid bob tro, cymhwyster TGAU neu NVQ. Byddwch yn hyfforddi gyda chwmni lleol neu gwmni hyfforddi ac efallai y bydd angen i chi fynychu coleg neu fan hyfforddi arall.
Hyfforddeiaethau Cenedlaethol/Prentisiaethau Modern Sylfaenol [Lefel 2]
Mae'r rhain yn debyg i'r Brentisiaeth Fodern, ond maent yn arwain at NVQ Lefel 2 lle y gallwch symud ymlaen i Lefel 3 neu gyflogaeth. Bydd y rhaglen hyfforddi hon yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y byd go iawn.
Mae'r sgiliau hyn wedi'u cymeradwyo gan gyflogwyr ac wedi i chi gymhwyso, byddwch yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i fusnesau â'ch sgiliau mewn TG, datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm. Bydd dangos eich cymhwysedd yn y gweithle yn arwain at NVQ Lefel 2.
Hyfforddeiaeth / Ymgysylltu
Bydd Hyfforddeiaeth yn eich helpu i roi cynnig ar swyddi gwahanol os nad ydych yn hollol siŵr beth yr ydych am ei wneud. Hyfforddeiaethau paratoi i chi wneud cais am swyddi drwy gynnig asesu a hyfforddi a all gynnwys paratoi i fynd i gyflogaeth, gall y fyddin neu wirfoddol hyd yr amser y cwrs fod yn hyblyg er mwyn galluogi dilyniant. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cymorth ychwanegol gyda'ch Sgiliau Sylfaenol ac yn eich helpu i chwilio am swyddi.
Cyfleoedd Hyfforddiant Cyfredol
Mae cyfleoedd hyfforddiant yn newid bob blwyddyn i adlewyrchu anghenion cwmnïau lleol. Mae Gyrfa Gwent yn cadw gwybodaeth gyfredol am argaeledd y rhaglenni hyn. Mae'r wybodaeth hon ar gael i ymgeiswyr newydd a rhai sydd am symud ymlaen. Dylech fod yn ymwybodol hefyd bod rhai cwmnïau'n hysbysebu mewn papurau newydd lleol neu ranbarthol yn gyntaf.
Hunangyflogaeth neu Waith Gwirfoddol
Os ydych yn ystyried gweithio i chi'n hun neu wneud gwaith gwirfoddol, mae llawer o ffyrdd y gallwch ennill cymwysterau a phrofiad gwerthfawr o hyd. I gael y cyngor gorau yn y meysydd hyn, dylech gysylltu â'ch Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr ysgol neu Gyrfa Cymru Gwent:
Swyddfa Cwmbrân
Ffôn: 01633 482363
Ewch i www.careerswales.com
Hyfforddiant Torfaen
Mae Hyfforddiant Torfaen yn cynnig ystod o gyrsiau gan gynnwys Camu Ymlaen, Hyfforddeiaethau Cenedlaethol, Prentisiaethau Modern ac NVQs. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y ganolfan hyfforddi ar 01633 875929.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig