Cofrestr Risg Gymunedol
Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn mynnu bod Ymatebwyr Lleol yn ymgymryd â nifer o ddyletswyddau. Un o'r rhain yw cynnal a chyhoeddi Cofrestr Risg Gymunedol fel rhan o broses gynllunio seiliedig ar risg.
Gwneir y gwaith yma gan grŵp o asiantaethau a sefydliadau partner, ynghyd â ni ein hunain, a elwir yn 'Fforwm Cydnerth Lleol'. Diben y fforwm yw sicrhau ymateb cydgysylltiedig i bob math o argyfwng mawr.
Y gofrestr risg gymunedol yw'r rhan gyntaf o'r broses cynllunio at argyfwng ac mae'n sicrhau bod y cynlluniau a ddatblygir yn gymesur â'r risgiau.
Diben y gofrestr risg gymunedol yw:
- Sicrhau bod gan ymatebwyr lleol ddealltwriaeth drylwyr o'r risgiau y maent yn eu hwynebu, gan roi sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio.
- Darparu sail gadarn ar gyfer blaenoriaethu amcanion, rhaglenni gwaith, a dyrannu adnoddau.
- Galluogi cynllunio cydgysylltiedig, wedi'i seilio ar ragdybiaethau cynllunio cyson.
- Rhoi trosolwg sylfaenol o Gynllunio at Argyfwng ar gyfer y cyhoedd a swyddogion.
Mae copi o Gofrestr Risgiau Cymunedol Fforwm Cydnerth Lleol Gwent ar gael i'w gweld yma.
I gael mwy o wybodaeth ac i weld Cofrestr Risg Gymunedol Fforwm Cydnerth Lleol Gwent, ewch i wefan Fforwm Cydnerth Lleol Gwent.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2022
Nôl i’r Brig