Tywydd Poeth
Er y bydd y rhan fwyaf o bobl yn edrych ymlaen at dywydd cynhesach dros yr haf, gall gwres eithafol fod yn beryglus ac fe allai effeithio ar iechyd.
Mae'r risg bresennol o dywydd poeth eithafol yng Nghymru yn gymharol isel, ond yn ystod cyfnodau o dywydd poeth cymharol gymedrol, mae cyfraddau marwolaethau yn sylweddol uwch yn y wlad hon.
Pwy sydd yn y perygl mwyaf
- Pobl hŷn, yn enwedig y rhai hynny dros 75 oed ac sydd naill ai'n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartref gofal
- Pobl â salwch cronig
- Babanod a phlant bach
Risgiau iechyd
Mewn tywydd poeth eithafol fe allech ddioddef gorludded neu drawiad gwres. Bydd angen triniaeth frys ar y ddau gyflwr.
Ewch i wefan Galw Iechyd Cymru i gael mwy o wybodaeth a manylion am symptomau gorludded gwres a thrawiad gwres.
Yr hyn y gallwch chi a'ch teulu/gofalydd ei wneud
- Gwneud yn siwr bod modd agor ffenestri i awyru ystafelloedd, yn enwedig yn y nos
- Cysgodi ffenestri yn ystod y dydd trwy gau llenni neu fleindiau, yn enwedig os yw'r haul yn tywynnu arnynt yn uniongyrchol
- Gwneud yn siwr eich bod yn yr ystafell oeraf bosibl
- Defnyddio gwyntyll drydan i symud yr aer o gwmpas
- Gwneud yn siwr bod diodydd oer, dialcohol ar gael i chi, a'ch bod chi'n yfed yn rheolaidd
- Chwistrellu dŵr oer arnoch chi'ch hun neu ddefnyddio gwlanen i'ch oeri
- Cynllunio bwydlenni oer a chynnwys bwydydd sy'n cynnwys llawer o ddŵr, fel ffrwythau a saladau
- Gwisgo dillad cotwm llac a het haul os ydych chi'n mynd allan
Gofalu amdanoch chi'ch hun ac eraill yn ystod tywydd poeth
- Cadwch allan o'r gwres drwy osgoi rhan boethaf y dydd (11am - 3pm). Neilltuwch weithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon a chrefft cartref i rannau oerach y dydd. Os ydych chi'n mynd allan, ceisiwch aros mewn mannau cysgodol, gwisgwch het haul a dillad ysgafn a llac, defnyddiwch eli haul, a chofiwch fynd â digon o ddŵr gyda chi
- Ceisiwch aros yn oer drwy aros y tu mewn yn y rhan oeraf o'r adeilad. Caewch y llenni mewn ystafelloedd sy'n cael llawer o haul. Caewch y ffenestri yn ystod y dydd a'u hagor yn y nos pan fydd yn oerach y tu allan. Cymerwch gawod neu fath oer, a thasgwch ddŵr oer arnoch chi'ch hun sawl gwaith y dydd
- Dylech yfed yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo'n arbennig o sychedig, gan osgoi alcohol, te a choffi
- Ceisiwch gyngor os oes gennych unrhyw bryderon. Cysylltwch â'ch meddyg, fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru (0845 4647) os ydych yn pryderu am eich iechyd yn ystod tywydd poeth, yn enwedig os ydych yn cymryd meddyginiaeth, neu os oes gennych unrhyw symptomau anarferol
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig