Trwydded Sgip - Gwneud Cais am Drwydded
Trwydded Sgip - Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded |
Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch i roi sgip adeiladwr ar ffordd gyhoeddus.
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980
|
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon
|
Proses Arfarnu'r Cais |
Gellir rhoi caniatâd yn destun amodau a all fod yn ymwneud â'r canlynol:
- lleoliad y sgip
- mesuriadau'r sgip
- sicrhau bod traffig yn gallu gweld y sgip
- gofal am gynnwys y sgip a'i gwaredu
- goleuo a gwarchod sgipiau
- symud sgipiau
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Nac ydy. Mae er budd y cyhoedd i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch ag ef.
|
Gwneud cais ar-lein |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ofyn am drwydded.
|
Unioni Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
|
Iawndal i Ddeiliaid Trwyddedau |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
|
Cwynion gan Ddefnyddwyr |
Os ydych am gwyno, byddem bob amser yn eich cynghori i gysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr (gyda phrawf eich bod wedi'i anfon), yn ddelfrydol. Os na fu'n llwyddiannus a'ch bod yn byw yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. O'r tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
|
Camau Unioni Eraill |
e.e. yn ymwneud â sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, os bydd un daliwr trwydded yn cwyno am un arall.
|
Cymdeithasau Masnachu |
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'r derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022
Nôl i’r Brig