Cofrestru Gweithredwyr Sgipiau - Gwneud Cais am Drwydded
 Cofrestru Gweithredwyr Sgipiau
| Crynodeb o'r Drwydded | Os ydych yn rhedeg busnes hurio sgipiau neu'n berchen ar sgipiau, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol i roi sgip adeiladwr ar briffordd gyhoeddus. Mae'r awdurdod yn cofrestru gweithredwyr sy'n dymuno cynnig sgipiau i'w hurio i fusnesau adeiladu neu i'r cyhoedd i'w rhoi ar y briffordd gyhoeddus. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980 | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Bydd angen i'r gweithredwr feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol a bod yn gludydd gwastraff cofrestredig. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdogaeth. | 
|---|
| Gwneud cais ar-lein | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i wneud cais am drwydded. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Cwynion gan Ddefnyddwyr | Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach |  | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2020 
 Nôl i’r Brig