Tystysgrif Gweithredwyr Pont Bwyso Gyhoeddus - Gwneud cais am Dystysgrif Cymhwysedd
Crynodeb o'r drwydded |
I weithredu pont bwyso gyhoeddus, bydd angen tystysgrif cymhwysedd arnoch a gyflwynir gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau ar gyfer eich awdurdod lleol. |
Meini Prawf Cymhwysedd |
Mae'n rhaid bod gennych ddigon o wybodaeth i allu cyflawni eich dyletswyddau'n briodol.
Sylwer: Nid oes modd trosglwyddo tystysgrifau cymhwysedd i unigolyn arall a byddant yn ddilys dim ond ar gyfer y bont bwyso y cafodd yr ymgeisydd brawf yn ei chylch.
|
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r dystysgrif hon |
Proses Gwerthuso Cais |
Nid oes darpariaeth mewn deddfwriaeth.
Bydd yr Awdurdod yn gwerthuso gwybodaeth a pherfformiad yr ymgeisydd trwy gyfuniad o weithdrefn holi ac ateb ar lafar ynghyd â phrofion ymarferol ar yr offer dan sylw.
|
A fydd Caniatâd Dealledig yn berthnasol? |
Na fydd. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod. |
Gwneud cais ar-lein |
I wneud cais am dystysgrif gweithredwr pont bwyso gyhoeddus, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol, gan roi eich enw llawn, cyfeiriad y busnes lle mae'r bont bwyso a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.
Yna gwneir trefniadau i'r ymgeisydd sefyll prawf anffurfiol. Bydd Tystystgrif Gweithredwr Pont Bwyso Gyhoeddus yn cael ei chyflwyno i ymgeiswyr llwyddiannus.
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Cewch gysylltu â'r Swyddfa Fesur Wladol os gwrthodir eich cais.
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. |
Cymdeithasau Masnach |
Tystysgrifau Gweithredwr Pont Bwyso ar gov.uk
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig