Trwyddedau Petrolewm
I redeg busnes lle y caiff petrol ei storio i'w ddosbarthu'n uniongyrchol i danc tanwydd peiriant tanio mewnol - neu lle y caiff swm sylweddol o betrol ei storio at ddefnydd preifat - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod trwyddedu petrolewm lleol.
Mae petrolewm yn golygu unrhyw gynnyrch petrolewm crai sydd â phwynt tanio islaw 21°C. Mae hyn yn cynnwys petrol, bensen, pentân ac unrhyw gymysgedd sy'n cynnwys y cynhyrchion hyn ac sydd â phwynt tanio islaw 21°C. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys gwirod gwyn, paraffîn, olew diesel neu olew tanwydd.
Caiff safleoedd sydd wedi'u trwyddedu i storio petrolewm eu harchwilio i sicrhau bod y safleoedd sy'n storio a dosbarthu petrol yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel, nad yw'n peri risg i'r cyhoedd na'r amgylchedd. Mae ein swyddogion yn archwilio cyflwr y cwrt blaen, gan sicrhau'n benodol nad oes gollyngiadau a bod rhagofalon tân (gan gynnwys offer addas) wedi'u sefydlu. Bydd cofnodion y safle'n cael eu harchwilio i gadarnhau bod tanciau storio'n cael eu monitro'n rheolaidd ac y dilynir gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
Os oes angen i chi drwyddedu safle ar gyfer storio petrolewm neu newid manylion trwydded gyfredol, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i'w cael yn y fan hon.
Mae cyngor ar storio a chludo petrol ar gyfer defnyddwyr domestig i'w gael yn y fan hon.
Os ydych yn pryderu am fusnes neu safle arall yr ydych yn tybio bod angen trwydded arno ond sydd heb drwydded, neu sydd wedi'i drwyddedu ond heb gael ei gynnal yn gywir, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.
Os oes gennych gŵyn fel defnyddiwr ynghylch nwyddau neu wasanaethau a brynoch oddi wrth safle trwyddedig, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. Sylwer nad oes modd delio â'r materion hyn fel rhan o'r drwydded fel arfer, ond mae'n bosibl y gallai ein swyddogion trwyddedu gynnig cymorth a chyngor.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig