Strwythur sy'n Ymwthio Allan Dros/O Dan y Briffordd - Gwneud Cais am Drwydded
Strwythur sy'n Ymwthio Allan Dros/O Dan y Briffordd
| Crynodeb o'r Drwydded | Os hoffech adeiladu neu ymestyn adeilad dros neu ar y briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch. Sylwer y gall priffordd gynnwys ffyrdd, palmentydd ac ymylon ffordd. Gallai'r cyfarpar preifat gael ei osod dros dro neu'n barhaol. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys llinell ffôn breifat sy'n ymestyn dros stryd a rhwng adeiladau, neu ganopi bychan ar adeilad. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrin â'r math hwn o drwydded o dan Adran 178 Deddf Priffyrdd 1980. Ymdrinnir ag ymestyniadau mawr o adeiladau, h.y. balconïau, canopïau strwythurol neu fargodion cyffredinol ar adeiladau, o dan Adran 177 Deddf Priffyrdd 1980. Hefyd, yn ogystal â chael caniatâd cynllunio, rhaid cael trwydded i adeiladu seler newydd sydd o dan y ffordd gerbydau neu'r ffordd droed, ac ymdrinnir â hyn o dan Adran 179 Deddf Priffyrdd 1980. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Rhaid i'r cais gael ei wneud gan berchennog yr ymestyniad arfaethedig a/neu'r tir y mae'r ymestyniad ynghlwm wrtho.   Bydd angen i'r ymgeisydd ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a osodir ar ddeiliad trwydded. | 
|---|
| Ffïoedd | Rhaid talu ffïoedd a bydd amodau ynghlwm. | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i brosesu eich cais mor gyflym â phosibl. Oherwydd natur y drwydded hon a buddiant trydydd parti, ein nod fydd caniatáu trwyddedau o fewn 30 diwrnod gwaith o ddyddiad y cais. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar gael yr holl ddogfennau a chynlluniau gofynnol.   Y broses werthuso:   
Rhaid derbyn y taliad ar gyfer y cais ymlaen llaw, cyn asesuCaiff y cais ei ddilysu i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef/hi yw perchennog yr ymestyniad a'i fod/bod yn cytuno i amodau'r drwydded Caiff y cynnig ei adolygu a rhoddir ystyriaeth i opsiynau eraill, yr effaith ar y briffordd a'r risg bosibl i seilwaith y briffordd ac i'r cyhoedd Bydd tystiolaeth o gytundebau trydydd parti'n cael ei hadolygu os yw'n berthnasolCaiff y gosodiad a'r dull adeiladu arfaethedig eu hystyried  | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen brosesu eich cais cyn ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. | 
|---|
| Sut i Ymgeisio | Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded y cais ar gyfer adeiladu strwythur dros, o dan neu uwchben y briffordd ffurflen y gellir ei lawrlwytho yma. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Cyngor Bwrdeistref Sirol TorfaenGwasanaethau Cymdogaeth
 Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
 Ffordd Panteg
 New Inn
 Pont-y-pŵl
 NP4 0LS
   Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i'w Lys Ynadon lleol. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Cyngor Bwrdeistref Sirol TorfaenGwasanaethau Cymdogaeth
 Is-adran y Rhwydwaith PriffyrddFfordd Panteg
 New Inn
 Pont-y-pŵl
 NP4 0LS
   Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio i'w Lys Ynadon lleol. | 
|---|
| Apeliadau a Chwynion | Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Adran berthnasol eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 
 Nôl i’r Brig