Gwaith Stryd -  Gwneud Cais am Drwydded
Trwydded Gwaith Stryd
| Crynodeb o'r Drwydded | Mae cwmnïau cyfleustodau ac awdurdodau priffyrdd yn cael trwydded gan yr Ysgrifennydd Gwladol i osod a chynnal cyfarpar ar y briffordd gyhoeddus. Mae deddfwriaeth hefyd yn caniatáu i unigolion preifat gael trwydded; rhaid iddynt wneud cais am y drwydded i'r awdurdod priffyrdd perthnasol, sy'n ei gweinyddu hefyd.   Rhoddir trwyddedau o'r fath o dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac maent yn ddilys am y cyfnod y mae'r cyfarpar yn parhau ar y briffordd gyhoeddus.   Mae'r drwydded yn caniatáu am osod y cyfarpar, gwaith cynnal a chadw arno yn y dyfodol (er enghraifft, atgyweiriadau) a'i dynnu ymaith. Deiliad y drwydded sy'n gyfrifol am sicrhau bod y drwydded yn cael ei diwygio yn achos trosglwyddo perchenogaeth y tir (pan gaiff tir ei werthu i barti arall). | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Mae'n rhaid i berchennog y cyfarpar arfaethedig a/neu'r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu wneud cais am y drwydded. Bydd angen i'r ymgeisydd ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a osodir ar ddeiliad trwydded a darparu:   
Manylion llawn y cyfarpar arfaethedig, gan gynnwys ei fath, ei ddiben, y dull adeiladu a'r lleoliad.Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n ddilys am gyfnod llawn y drwydded arfaethedig, gydag yswiriant am o leiaf £10,000,000 Cadarnhad mai nhw yw perchennog y cyfarpar/y tir | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Yn fyr, mae'n ofynnol i ddeiliad y drwydded:   
Gysylltu â phob sefydliad a allai fod â buddiant yn y briffordd (cwmnïau cyfleustodau ac ati) i'w hysbysu am y cynnig, roi cyfle iddynt gyflwyno gwrthwynebiadau neu bryderon a chael copïau o gyfarpar sy'n bodoli eisoes yn y lleoliad dan sylw. Mae rhestr o gysylltiadau ar gael ar gais.Sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynllunio'n gywir a'i gyflawni'n gyflym.Sicrhau bod yr holl amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded yn cael eu bodloni.Hysbysu'r awdurdod priffyrdd am unrhyw broblemau sy'n codi.Darparu lluniad 'fel yr adeiladwyd' ar adeg cwblhau'r gwaith.Sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw ac nad yw'n achosi perygl i'r cyhoedd na difrod i seilwaith y briffordd, gan gynnwys cyfarpar arall.Indemnio'r awdurdod priffyrdd yn erbyn pob hawliad, gan gynnwys anaf, difrod neu golled sy'n deillio o unrhyw agwedd ar y cyfarpar neu'r adeiledd a drwyddedwyd, gan gynnwys gosod, cynnal a chadw a thynnu'r cyfarpar ymaith a hefyd o ganlyniad i bresenoldeb y cyfarpar neu'r adeiledd. Felly, mae'n angenrheidiol bod yswiriant addas wedi'i drefnu am gyfnod y drwydded sy'n werth o leiaf £10,000,000 ar gyfer pob hawliad, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer yr hawliadau.Sicrhau bod y drwydded yn cael ei throsglwyddo'n gywir i drydydd parti os caiff y tir/cyfarpar ei werthu. Rhaid talu ffïoedd ar adeg cyflwyno'r cais a gallai amodau pellach gael eu gosod yn ychwanegol at yr amodau safonol. | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Y broses werthuso:   
Rhaid talu am y cais ymlaen llaw, cyn yr asesiad.Bydd y cais yn cael ei ddilysu i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef/hi yw perchennog y cyfarpar a'i fod yn cytuno ag amodau'r drwydded.Bydd y cynnig yn cael ei adolygu a rhoddir ystyriaeth i opsiynau eraill, yr effaith ar y briffordd a'r risg bosibl i seilwaith y briffordd a'r cyhoedd.Bydd tystiolaeth o gytundebau trydydd parti'n cael ei hadolygu os yw hynny'n berthnasol (fel cytundebau i gysylltu â charthffosydd cyhoeddus ac ati).Bydd y dull gosod ac adeiladu arfaethedig yn cael ei ystyried. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Rhaid cael caniatâd o dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 cyn y gellir gosod cyfarpar newydd ar y briffordd gyhoeddus. Ein nod yw prosesu ceisiadau o fewn pymtheg diwrnod, ond os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn y 15fed diwrnod, cysylltwch â'r Awdurdod Priffyrdd. | 
|---|
| Gwneud cais ar-lein | Os ydych am wneud cais am Drwydded Gwaith Stryd, lawrlwytho copi o'r cais i osod offer yn y ffurf y briffordd yma. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.     Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynglwm wrth ei drwydded gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol. | 
|---|
| Cwynion gan Ddefnyddwyr | Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/12/2020 
 Nôl i’r Brig