Caniatâd Masnachu ar y Stryd - Gwneud Cais am Drwydded
Caniatâd Masnachu ar y Stryd
Crynodeb o'r Drwydded |
Os ydych chi'n masnachu ar y stryd, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd masnachu ar y stryd arnoch.
Dylid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'ch cyngor lleol, neu'r cyngor lleol ar gyfer yr ardal lle'r ydych yn dymuno masnachu.
Mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol, gan gynnwys manylion y stryd y dymunwch fasnachu arni, a'r diwrnodau a'r amseroedd pryd rydych chi'n dymuno masnachu.
Bydd angen i chi hefyd ddarparu dau lun ohonoch chi'ch hun.
Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded.
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Mae'n rhaid eich bod chi dros 17 oed i gael trwydded. Gwrthodir rhoi trwyddedau os bydd unrhyw rai o'r rhesymau canlynol yn bodoli:
- nid oes digon o le yn y stryd lle'r ydych yn dymuno masnachu, heb achosi ymyrraeth neu anghyfleustra i ddefnyddwyr y stryd
- eich bod yn dymuno masnachu am lai o ddiwrnodau na nifer y diwrnodau masnachu gofynnol
- eich bod yn anaddas i gael trwydded oherwydd unrhyw euogfarnau blaenorol neu resymau eraill
- eich bod yn y gorffennol wedi methu â thalu'r ffïoedd a oedd yn ddyledus ar gyfer trwydded arall i fasnachu ar y stryd neu wedi methu â defnyddio trwydded flaenorol i fasnachu ar y stryd
|
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon
|
Proses Gwerthuso Cais |
O dan rai amgylchiadau, os yw rhesymau penodol dros wrthod yn bodoli, gallai'r cyngor benderfynu o hyd i gyflwyno trwydded ond ar gyfer llai o ddiwrnodau nag y gofynnwyd amdanynt, neu ganiatáu masnachu eitemau penodol yn unig.
Bydd y cyngor naill ai'n cymeradwyo'r cais neu'n cyflwyno hysbysiad i chi o fewn cyfnod rhesymol.
Bydd y cyngor yn cyflwyno hysbysiad os yw'n bwriadu gwrthod y cais, ei ganiatáu gyda thelerau sy'n wahanol i'r telerau y gwnaed cais amdanynt, cyfyngu'r masnachu i fan penodol ar y stryd, amrywio amodau trwydded neu ddiddymu trwydded. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Bolisi Gweithredu ar gyfer Masnachu ar y Stryd a strwythur Ffïoedd Trwyddedu y cyngor.
Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion am resymau'r cyngor dros eu penderfyniad ac yn datgan eich bod, o fewn saith diwrnod o'r hysbysiad, yn gallu gwneud cais ysgrifenedig am gyfle i gyflwyno sylwadau.
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
|
Gwneud cais ar-lein |
Gwneud cais i fasnachu ar y stryd
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.
Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.
Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.
|
Camau Unioni Eraill |
E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.
|
Cymdeithasau Masnach |
Dim
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2022
Nôl i’r Brig