Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Mawrth 2022
Bydd casgliadau gwastraff gardd pythefnosol yn Nhorfaen yn ailgychwyn yr wythnos sy’n dechrau ar ddydd Llun 21 Mawrth.
Cynghorir trigolion i ddodi eu biniau gwyrdd ar gyfer eu casglu yn unol â’u calendr casglu.
Gellir gwirio dyddiadau casglu a chalendrau ailgylchu yma arlein.
Dylid ond defnyddio’r bin gwyrdd ar gyfer gwastraff gardd gan gynnwys gwair, dail, gwrychoedd wedi eu tocio, brigau bychain, planhigion marw a blodau. Gellir hefyd ei ddefnyddio ar gyfer deunydd gwely anifeiliaid anwes bach megis bochdew a moch cwta.
Rhaid rhoi baw cŵn a gwasarn cathod yn y bin caead piws ar gyfer ei waredu.
Ni ddylid rhoi gwastraff bwyd yn y bin gwyrdd, ond ei ddodi yn y cadi bwyd brown.
Atgoffir trigolion hefyd i beidio â defnyddio bagiau plastig i storio eu gwastraff gardd.
I gael gwybodaeth ar gompostio gartref, ffoniwch 01495 766734, neu ewch i’r tudalennau gwastraff ac ailgylchu ar y wefan.