Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024
Mae aelodau’r pwyllgor craffu wedi rhoi eu barn ar ddrafft o’r Polisi Addysg a Gorfodi Gwastraff.
Yn ôl adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Economi a'r Amgylchedd, byddai'r polisi yn canolbwyntio ar ymgysylltu yn gyntaf - gan helpu trigolion i leihau gwastraff drwy ailgylchu mwy.
Gwnaeth aelodau'r pwyllgor gyfres o argymhellion, a fydd yn cael eu hadolygu gan y gwasanaeth cyn i'r polisi drafft fynd i'r Cabinet ym mis Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Yn 2019, gwnaethom ddatgan argyfwng newid hinsawdd a natur, ac un ffordd o leihau ein heffaith yw cynyddu faint o wastraff yr ydym yn ailgylchu.
“Hoffem ddiolch i drigolion sydd eisoes yn ailgylchu cymaint ag y gallant. Os caiff ei gymeradwyo, ffocws y polisi hwn fyddai addysgu a chefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ailgylchu, a sicrhau mai camau gorfodi fydd y dewis olaf.”
Amlinellodd yr adroddiad fod y cyngor wedi cymeradwyo gweithdrefn orfodi ar gyfer gwasanaethau gwastraff cartref ac ailgylchu, fel gorlenwi biniau a gadael bagiau sbwriel wrth ymyl, yn 2007.
Yn 2022, argymhellodd aelodau’r pwyllgor craffu y dylai'r gwasanaeth wneud nifer o newidiadau cyn mynd ar drywydd camau gorfodi, yn cynnwys cyflwyno cerbydau ailgylchu newydd, gwahanu deunyddiau cardbord a chyflwyno arolygon cyfranogiad.
Ers hynny, ac yn dilyn arolwg trigolion yn 2023, gwnaed cyfres o welliannau i'r gwasanaeth gyda'r nod o gynyddu cyfraddau ailgylchu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant.
Bydd y gwasanaeth ailgylchu yn adolygu argymhellion y pwyllgor cyn cyfarfod Cabinet mis Hydref, cyn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu'r polisi.
Darllenwch ddrafft o’r adroddiad addysg a gorfodi gwastraff
Gwyliwch recordiad o'r cyfarfod
Darganfod mwy am ailgylchu yn Nhorfaen