Cynlluniau ar gyfer bagiau ailgylchu newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
cllr morgan rtr

Mae cynlluniau i gyflwyno bag ailgylchu newydd yn cael eu hystyried yn rhan o ymgyrch Codi'r Gyfradd Ailgylchu y Cyngor.

Bydd y bagiau coch newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer plastig, caniau, tuniau a chartonau a byddant yn cael eu casglu'n wythnosol.

Bydd gwydr, papur, batris a thecstilau yn dal i fynd allan yn wythnosol yn y blychau du.

Bydd y bagiau 90 litr yn dal mwy na'r blychau du, felly byddant yn lleihau'r angen i drigolion gael nifer o flychau gwahanol ac yn lleihau’r amser y mae'n ei gymryd i griwiau ddidoli eitemau i'w hailgylchu wrth ymyl y ffordd.

Mae adroddiad sy’n cynnig y newid wedi cael ei anfon at yr Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd yr wythnos hon. Os cânt eu cymeradwyo, bydd y bagiau coch yn cael eu cyflwyno fis Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Rydyn ni’n gwybod bod llawer o drigolion eisoes yn didoli eu deunydd i’w ailgylchu i flychau duon gwahanol, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r criwiau.

"Bydd y bagiau newydd yn haws eu storio, a bydd y caeadau y gellir eu hail-selio yn golygu bod llai o sbwriel oherwydd eitemau sy'n cael eu chwythu o’r blychau.

"Maen nhw hefyd yn cynnig llawer gwell gwerth am arian - yn costio llai i'w prynu ac yn para’n hirach."

Bydd cardfwrdd yn dal i gael ei gasglu yn y bagiau glas a gwastraff bwyd yn y cadis brown, yn wythnosol.

Yn 2023, dywedodd 87% o'r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg Codi'r Gyfradd y byddent yn barod i wahanu eu deunydd i’w ailgylchu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i awdurdodau lleol ailgylchu 70 y cant erbyn 2025.

Bydd cardfwrdd yn dal i gael ei gasglu yn y bagiau glas a gwastraff bwyd yn y cadis brown, yn wythnosol.

Yn 2023, dywedodd 87% o'r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg Codi'r Gyfradd y byddent yn barod i wahanu eu deunydd i’w ailgylchu.

Rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 11/07/2024 Nôl i’r Brig