Sgowtiaid yn creu darn o gelf allan o sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Mehefin 2024

Mae grŵp o sgowtiaid o Bont-y-pŵl wedi creu cerflun allan o eitemau sy’n cael eu hystyried yn sbwriel.

Aeth Afancod, Cenau a Sgowtiaid o grŵp Sgowtiaid 1af Garndiffaith ati i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cyngor Torfaen, a oedd yn agored i bob grŵp Cenau a Sgowtiaid yn y fwrdeistref, i godi ymwybyddiaeth am y sbwriel sy'n cael ei daflu.

Dyfarnwyd eu dyluniad o'r Tŵr Ffoli, a grëwyd allan o hen focsys cardbord a photeli plastig, yn fuddugol.

Dywedodd Christine Marchant, Arweinydd y Sgowtiaid: “Cafodd y grŵp gymaint o hwyl yn creu’r Tŵr Ffoli allan o eitemau a allai fod yn sbwriel.

“Bu’r plant yn greadigol iawn, gan ddefnyddio bocsys cardbord, paentio darnau jig-so, poteli plastig, rholiau papur tŷ bach a hyd yn oed y pethau sy’n gwahanu pitsas mewn bocsys.

“Rydym wrth ein bodd mai ni cafodd ein dewis fel enillwyr ac ni allwn aros i wario ein cerdyn rhodd.”

Ddydd Llun, cyflwynwyd y grŵp gyda'u gwobr o gerdyn rhodd gwerth £50 i’w wario yn y Works, gan Oliver James, Swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y Cyngor.

Dywedodd: “Roeddem wrth ein bodd â’r Tŵr Ffoli ac roeddem yn meddwl ei fod yn ffordd wych o ddefnyddio eitemau sydd fel arfer yn sbwriel os nad ydynt yn cael eu hailgylchu.

“Hoffem ddiolch i raglen Cyfuno, prosiect diwylliannol y Cyngor am y wobr, ac am eu cymorth i hyrwyddo’r gystadleuaeth.”

Bydd y cerflun yn cael ei arddangos yn nigwyddiad Ewch yn Wyllt ym Mharc Pont-y-pŵl, ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Mae prosiect Cyfuno yn rhaglen a noddir gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd diwylliannol mewn cymunedau.

 Dysgwch sut mae'r cyngor yn gweithio ar daclo sbwriel a tipio anghyfreithlon yn Nhorfaen

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu i leihau sbwriel yn eu cymuned fenthyg offer casglu sbwriel am ddim gan un o'n hybiau. Ewch i dudalen we yr hybiau sbwriel.

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/06/2024 Nôl i’r Brig