Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Mehefin 2024
Bydd 60 o arwyddion newydd yn cael eu gosod mewn o fannau prysur o ran sbwriel a thipio ar draws y fwrdeistref i geisio atal pobl rhag gollwng neu adael sbwriel.
Gofynnwyd i blant ysgol lunio’r arwyddion newydd, fel rhan o gystadleuaeth gan Gyngor Torfaen, Taclo Tipio Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus.
Cyflwynodd wyth-deg-dau o blant gynigion, a dewiswyd y tri arwydd buddugol yr wythnos yma.
Aeth y wobr gyntaf i Rowen Masters, o Ysgol Gynradd Pen-y-garn, a dderbyniodd daleb llyfrau gwerth £30 am ei ddyluniad sy’n annog pobl i feddwl dwywaith cyn taflu sbwriel.
Daeth Lola West, o Ysgol Gynradd George Street, yn ail gyda neges rymus a oedd yn amlygu canlyniadau economaidd tipio.
Seren Munday, o Ysgol Gynradd Gatholig Dewis Sant oedd yn drydydd gyda dyluniad sy’n pwysleisio effaith taflu sbwriel ar anifeiliaid.
Cafodd y tri fedel yr un ynghyd â thystysgrif a gwobrau eco.
Dywedodd Oliver James, Swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Cyngor Torfaen: “Roeddem ni’n falch iawn gyda nifer y cynigion a hoffem ni ddiolch i ysgolion ac athrawon am gymryd rhan a chefnogi’r gystadleuaeth.
“Rydym ni’n gobeithio bod y gystadleuaeth wedi ysgogi nifer o drafodaethau da am yr amgylchedd a pham mae angen i ni edrych ar ei ôl.
“Hoffem ddiolch hefyd i Daclo Tipio Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus am eu cefnogaeth a’r gwobrau.”
Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru: “Roeddem ni wrth ein bodd o fod yn cefnogi’r gystadleuaeth hon yn ysgolion Torfaen, ac yn clywed am yr holl weithgareddau gan yr athrawon i gefnogi’r gystadleuaeth.
“Da iawn i’r plant i gyd a ddysgodd am daflu sbwriel a thipio ac effaith hynny ar ein hamgylchedd. A da iawn hefyd i’r enillwyr haeddiannol iawn.
“Cadwch lygad am yr arwyddion buddugol wrth i chi fynd o gwmpas y llen yn Nhorfaen.”
Dywedodd Kylie Hughes, Swyddog Addysg Eco-Ysgolion gyda Chadwch Gymru’n Daclus: “Roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, yn dangos eu creadigrwydd, eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth amgylcheddol. Roedd beirniadu’r gystadleuaeth yn dasg anodd ond hoffwn i longyfarch Rowen, Lola a Seren ar eu llwyddiant.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld eu dyluniadau’n cael eu harddangos ledled Torfaen. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n ysbrydoli pawb i wneud y peth iawn a chael gwared ar eu sbwriel a’u gwastraff mewn ffordd gyfrifol.”
Dysgwch sut mae’r cyngor yn taclo sbwriel a thipio anghyfreithlon